Y Cylchgrawn Daearyddol Digidol
Safon Uwch Gyfrannol ac Uwch
Rhifyn 2
Mae'r rhifyn hwn yn cynnwys dwy erthygl wedi'u haddasu o'r Saesneg, ac erthygl wreiddiol yn y Gymraeg a'r Saesneg.
Ymchwilio i 'fyfyrwyreiddio'
Addasiad o Investigating 'studentification', David Holmes, Geography Review, Medi 2007. Erthygl sy'n ymchwilio i effaith niferoedd cynyddol o fyfyrwyr ar drefi a dinasoedd y DU, gyda rhai yn dioddef o effeithiau negyddol ond eraill yn croesawu'r cynnydd.
Uned a Chwestiwn Allweddol
2009 & 2010: G2: 2.2
CA: Sut mae strwythur cymdeithasol a diwylliannol aneddiadau yn amrywio a pham?
- Ymchwilio i 'fyfyrwyreiddio' (.pdf)
Pan fwyf yn hen a pharchus
Addasiad o Hope I get rich before I get old, Rachel Nowak, New Scientist, 10 Tachwedd 2007. Erthygl sy'n edrych ar sut mae'r polisi un plentyn a'r flaenoriaeth ddiwylliannol i fechgyn yn China wedi gyrru nifer o rieni i ddewis erthyliad ar sail rhyw, gan greu cymaint o brinder merched nes ei bod yn bosib, erbyn 2025, y bydd yno 30 miliwn yn llai o ferched na dynion rhwng 20 a 49 oed, a phoblogaeth hŷn enfawr.
Unedau a Chwestiynau Allweddol
2009 & 2010: G2: 1.5
CA: Beth yw achosion ac effeithiau strwythurau rhyw newidiol?
2009 & 2010: G3A Thema 6(a) China 1.2
CA: Pam a sut y mae'r economi yn newid?
- Pan fwyf yn hen a pharchus (.pdf)
Sut mae gweithgaredd pobl yn rhoi pwysau ar amgylcheddau twndra yr Arctig a'r alpau?
(erthygl wreiddiol gan Davyth Fear sydd hefyd yn ymddangos yn y Saesneg fel How is human activity causing pressures on the Arctic and alpine tundra environments?)
Erthygl sy'n edrych ar y bygythiadau i amgylcheddau twndra, a chanlyniadau cadarnhaol a negyddol gweithgaredd pobl.
Uned a Chwestiwn Allweddol
2009 & 2010: G3A: 1: 1.5
CA: Ym mha ffordd y mae gweithgaredd dynol yn achosi pwysau ar amgylchedd y twndra alpaidd?
- Twndra yr Arctig a'r Alpau (.pdf)