Cysylltwch â ni

Mae'r Gwasanaeth Gyrfaoedd yn cael ei staffio gan dîm cyfeillgar a phrofiadol sy'n cynnig amrywiaeth o gymorth i'ch helpu i adnabod eich cryfderau ac archwilio amrywiaeth eang o gyfleoedd er mwyn i chi wneud penderfyniadau gwybodus am eich dyfodol.

Rydym yma i'ch helpu chi ar unrhyw gyfnod yn eich cynnydd trwy brifysgol ac ar ôl i chi raddio, felly galwch heibio am sgwrs.

Mae aelod o’n dîm ar gael bob dydd trwy’r wythnos (Llun i Wener) i gynnig cyngor ar gyfer ymholiadau byr mewn person neu ar-lein. Os oes angen cymorth helaethach arnoch yna gwnawn awgrymu dylech drafod gydag Ymgynghorydd Gyrfaoedd.  Bydd apwyntiad hefo Ymgynghorydd Gyrfaoedd yn cael ei chynnal mewn person neu drwy MS Teams.

Gallwch hefyd drefnu apwyntiad neu anfon ymholiad penodol atom gan ddefnyddio ein porth ar-lein gyrfaoeddABER a ddewis y tab Book neu’r botwm Ymholiadau.  Neu gallech ein galw ar 01970 622378 neu anfon ebost at gyrfaoedd@aber.ac.uk. Gwnawn ymateb i bob ymholiad o fewn tri diwrnod gwaith. 

Dilynwch ni ar:

Facebook

Twitter

Instagram

LinkedIn

Lleoliad a oriau agor:

Mae'r Gwasanaeth Gyrfaoedd wedi ei leoli yn y Ganolfan Croesawu Myfyrwyr. Oriau agor swyddfa gyrfaoedd yn Undeb y Myfyrwyr yw Dydd Llun i Dydd Gwener 9.00yb-4.00yp.