Adnoddau Gymorth

Mae'r Gwasanaeth Gyrfaoedd yn cynhyrchu nifer o gyhoeddiadau mewnol sydd ar gael isod. Cynhwysir cysylltiadau i gyhoeddiadau perthnasol fel y bo'n briodol ar draws ein gwefan ond cewch hefyd restr gyfan isod.

Taflenni mewnol

PDF

Cynigiwn gyfres o weminarau wedi eu recordio hefyd, weler ein tudalen gyrfaoeddABER a Digwyddiadau am y rhestr gyflawn.

Adnoddau Allanol

Gwefan Prospects yw'r ffynhonnell swyddogol ar gyfer gwybodaeth am yrfaoedd a swyddi gwag i raddedigion ac israddedigion. Mae'n ymdrin a gyrfaoedd, galwedigaethau, cyflogwyr a swyddi gwag i raddedigion, dulliau o wneud cais a chymorth i ddewis gyrfa. Mae'n cynnwys adran profiad gwaith lle fedrwch chi chwilio am leoliadau gwaith.

Logo GoinGlobal

 

 

Mae'r Gwasanaeth Gyrfaoedd yn tanysgrifio i gronfa ddata GoinGlobal (ar gael i fyfyrwyr a staff PA yn unig) sy'n cynnwys gwybodaeth ar wledydd, cyfarwyddiadur cyflogwyr a swyddi a lleoliadau byd-eang. Cewch fynediad i'r gronfa ddata trwy gyfrifiaduron PA ar gampws. I gael mynediad oddi ar y campws, cewch ddefnyddio cyswllt Rhwydwaith Preifat Rhithwir (VPN) neu sefydlu cyfrif personol ar wefan GoinGlobal gan ddefnyddio cyfrifiadur ar gampws a fydd yn caniatáu mynediad oddi ar gampws.

DU

Gwaith Gwirfoddol/Elusennau (DU)

Dramor

Gwaith Gwirfoddol Dramor