GÊM ARGYFWNG 28, 29 30 Hydref 2013

15 Gorffennaf 2013

Mae argyfwng yn taro Cymru. Yn y digwyddiad yma byddwch chi’n cael eich rhannu’n grwpiau megis Llywodraeth Cymru, asiantaethau cenedlaethol a ryngwladol, y wasg neu’r gwasanaethau cyhoeddus i weld a dadansoddi sut byddai gwahanol haenau o gymdeithas yn ymateb.

Pwy: Ar agor i holl fyfyrwyr cyn-radd ac ôl-radd holl brifysgolion Cymru.

Trefnwyr: Dan ofal, Dr Brieg Powel, Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Lleoliad: Canolfan yr Urdd Caerdydd, gyferbyn â’r Cynulliad.

Dyddiad: 1.00pm dydd Llun 28 Hydref tan 1.00 dydd Mercher 30 Hydref

AM DDIM: Bydd y Gêm, y llety (nos Lun a Mawrth) a’r lluniaeth i gyd yn y Ganolfan ac oll am ddim. Ond, rhaid i fynychwyr drefnu a thalu costau teithio eu hunain.

 

Defnyddir Gemau Argyfwng gan wahanol lywodraethau, a chwmnïau ryngwladol. Mae’n fethodoleg gydnabyddedig sy’n ddefnyddiol iawn ar gyfer paratoi, trefnu ac ymateb i ddigwyddiadau mawrion. Cymraeg  fydd iaith y digwyddiad.

Dyddiad Cau Cofrestru: Dydd Gwener 11 Hydref:

Siôn Jobbins, s.jobbins@colegcymraeg.ac.uk

01970 622893 | 07815 85 78 21