Cynhadledd Entrepreneuriaeth a Busnes 1 Tachwedd Aberystwyth

23 Gorffennaf 2013

Mae busnesau bach yn bwysig iawn yn yr economi yng Nghymru ac yn enwedig yn y Gymru wledig. Nod y gynhadledd hon yw gwella'r ddarpariaeth sy'n bodoli mewn entrepreneuriaeth a busnes ym mhrifysgolion yng Nghymru. Bydd yn adeiladu ar y MSc Entrepreneuriaeth a oedd yn rhedeg am nifer o flynyddoedd ym Mhrifysgol Aberystwyth, drwy greu rhwydwaith yn y maes ym mhrifysgolion Cymru a'r byd busnes. Y gobaith yw y bydd y gynhadledd yn creu diddordeb yn y pwnc ac yn arwain at fwy o ddarpariaeth ym maes Entrepreneuriaeth a Busnes yn y dyfodol. Yn ogystal, bydd y gynhadledd yn cynnwys cyfranogwyr o fyd busnes, a fydd yn dangos pwysigrwydd sgiliau dwyieithog yn y byd busnes a thrwy hynny eu hannog i ddewis yr opsiynau astudio drwy gyfrwng y Gymraeg sydd ar gael iddynt yn eu sefydliadau. Bydd hefyd yn cyhoeddi rhifyn arbennig o Gwerddon o'r papurau a gyflwynwyd yn y gynhadledd.