Gwaith y Gangen

Logo Cangen Prifysgol Aberystwyth Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Beth yw'r Gangen?

Mae Cangen Prifysgol Aberystwyth o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi’i lleoli yng Nghanolfan Gwasanaethau’r Gymraeg ac mae’n cael ei gweinyddu gan swyddogion a ariennir gan y Coleg ynghyd â swyddogion a gyflogir gan y Brifysgol. Mae’r gwaith dydd i ddydd yn cynnwys cyswllt cyson â swyddogion y Coleg, cefnogi staff academaidd gyda phrosiectau a ariennir gan y Coleg, adrodd am ddatblygiadau a monitro cynnydd prosiectau ac ysgoloriaethau’r Coleg, a chynghori myfyrwyr ar faterion yn ymwneud â’r ddarpariaeth academaidd drwy’r Gymraeg. Mae’r Gangen hefyd yn cynnwys aelodaeth ehangach o staff a myfyrwyr y Brifysgol sy’n gysylltiedig â’r ddarpariaeth Gymraeg, ac mae cyfarfodydd a gweithgareddau’n cael eu trefnu’n rheolaidd.

Pwyllgor y Gangen

Gwaith Pwyllgor y Gangen o'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yw arolygu a datblygu darpariaethau academaidd a geir yn Aberystwyth drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'r Pwyllgor yn monitro ac yn adolygu'n flynyddol y ddarpariaeth a geir drwy gyfrwng y Gymraeg, ac yn adrodd am faterion cynllunio ac adnoddau dysgu drwy'r Gymraeg i gyrff cynllunio'r Brifysgol, a thrwyddynt hwy, i'r Cyngor. Mae’r Pwyllgor yn cael ei gadeirio gan aelod o staff academaidd y Brifysgol sy’n dysgu drwy’r Gymraeg.

Aelodau’r Pwyllgor

  • pob aelod o'r staff sy'n defnyddio'r Gymraeg fel cyfrwng dysgu;
  • staff academaidd berthynol sy'n cefnogi dysgu cyfrwng Cymraeg;
  • deiliaid ysgoloriaethau ymchwil y Coleg Cymraeg Cenedlaethol;
  • cynrychiolwyr y myfyrwyr gan gynnwys Llywydd UMCA.

Cadeirydd: Jonathan Fry (jof36@aber.ac.uk)
Is-gadeirydd: Dr Hywel Griffiths (hmg@aber.ac.uk)
Ysgrifennydd: Dr Tamsin Davies (ted@aber.ac.uk) a Mel Owen (meo14@aber.ac.uk), Swyddogion y Gangen

Cylch Gorchwyl Cangen Prifysgol Aberystwyth o'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol (PDF)

Gweithgareddau’r Gangen

Dengmlwyddiant y Gangen

Mae’r ddolen isod yn eich galluogi i ddarllen ac lawrlwytho e-lyfr sydd yn dathlu dengmlwyddiant Cangen Aberystwyth o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol (2011-2021).

Tudalen Panopto’r Gangen

Mae tudalen Panopto y Gangen yn cynnwys recordiadau fideo o sesiynau blaenorol megis ein digwyddiad Cyflogadwyedd gyda chyn fyfyrwyr a Seminarau Ymchwil. Noder bydd angen mewngofnodi efo cyfrif Prifysgol Aberystwyth i weld y cynnwys.