Pwyllgor y Gangen
Gwaith Pwyllgor y Gangen o'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yw arolygu a datblygu darpariaethau academaidd a geir yn Aberystwyth drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'r Pwyllgor yn monitro ac yn adolygu'n flynyddol y ddarpariaeth a geir drwy gyfrwng y Gymraeg, ac yn adrodd am faterion cynllunio ac adnoddau dysgu drwy'r Gymraeg i gyrff cynllunio'r Brifysgol, a thrwyddynt hwy, i'r Cyngor. Mae’r Pwyllgor yn cael ei gadeirio gan aelod o staff academaidd y Brifysgol sy’n dysgu drwy’r Gymraeg.
Aelodau’r Pwyllgor
- pob aelod o'r staff sy'n defnyddio'r Gymraeg fel cyfrwng dysgu gan gynnwys y staff a ariennir gan Gynllun Staffio Academaidd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol;
- staff academaidd berthynol sy'n cefnogi dysgu cyfrwng Cymraeg;
- deiliaid ysgoloriaethau ymchwil y Coleg Cymraeg Cenedlaethol;
- cynrychiolwyr y myfyrwyr gan gynnwys Llywydd UMCA.
Cadeirydd: Dr Anwen Jones
Is-gadeirydd: Dr Bleddyn Owen Huws
Ysgrifennydd: Dr Tamsin Davies, Swyddog y Gangen
Cyfansoddiad a Chylch Gorchwyl y Gangen (PDF)
Dyddiadau cyfarfodydd blwyddyn academaidd 2012/13
| Dyddiad | Amser | Lleoliad |
|---|---|---|
| 31 Hydref 2012 | 2.15pm | Ystafell G4, Adeilad Cledwyn |
| 27 Chwefror 2013 | 2.15pm | Ystafell G4, Adeilad Cledwyn |
| 22 Mai 2013 | 2.15pm | Ystafell G4, Adeilad Cledwyn |
Gweithgor y Gangen
Mae Gweithgor y Gangen yn cyfarfod rhwng cyfarfodydd Pwyllgor y Gangen i gynghori’r Cadeirydd a’r swyddogion ar faterion polisi. Mae’r Gweithgor yn sicrhau bod yr agenda a gytunir ar gyfer Pwyllgor y Gangen yn galluogi trafodaeth strategol a bod penderfyniadau’n cael eu gweithredu’n effeithiol ac ar amser.
Cadeirydd: Dr Anwen Jones
Ysgrifennydd: Dr Mari Elin Jones
Aelodau
Dr Bleddyn O Huws Adran y Gymraeg
Elin Haf Gruffydd Jones Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu
Yr Athro Rhys Jones Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear
Yr Athro Andrew Evans Sefydliad Mathemateg a Ffiseg
Dr Huw Lewis Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol
Dr Iwan Owen Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS)
Dr Catrin Huws Adran y Gyfraith a Throseddeg