Tystysgrif Sgiliau Iaith

Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi datblygu Tystysgrif Sgiliau Iaith er mwyn cydnabod sgiliau iaith Gymraeg myfyrwyr sy’n astudio mewn prifysgolion yng Nghymru.

Nod y Dystysgrif yw sefydlu ffordd gyffredin, gydnabyddedig o ddangos sgiliau ieithyddol myfyrwyr, a galluogi myfyrwyr i ddarparu tystiolaeth i gyflogwyr o’u gallu i gyfathrebu yn hyderus ac yn broffesiynol yn y Gymraeg, ar lafar ac yn ysgrifenedig.

Ystyrir y bydd y Dystysgrif hefyd yn fodd o sicrhau fod myfyrwyr yn sylweddoli gwerth sgiliau iaith Gymraeg yn addysgol ac yn y gweithle, ac y bydd yn ysgogiad i fyfyrwyr fanteisio ar gyfleoedd i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg yn y brifysgol, a defnyddio’r Gymraeg yn hyderus yn y gweithle maes o law.

Mae’r Dystysgrif yn cael ei chyflwyno am y tro cyntaf ym mlwyddyn academaidd 2012/13.Ystyrir y bydd y Dystysgrif hefyd yn fodd o sicrhau fod myfyrwyr yn sylweddoli gwerth sgiliau iaith Gymraeg yn addysgol ac yn y gweithle, ac y bydd yn ysgogiad i fyfyrwyr fanteisio ar gyfleoedd i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg yn y brifysgol, a defnyddio’r Gymraeg yn hyderus yn y gweithle maes o law.