Ymaelodi

Drwy ymaelodi â’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol bydd modd i unigolion sydd â diddordeb yng ngwaith y Coleg ddod yn aelodau o gymuned academaidd y Coleg.  Bydd aelodau yn derbyn gwybodaeth am weithgareddau a datblygiadau'r Coleg, ynghyd â manylion am gyfleoedd a fydd yn codi o gynlluniau'r Coleg.  Cynigir pum categori o aelodaeth, sef (i) disgyblion ysgol, (ii) myfyrwyr addysg bellach, (iii) myfyrwyr addysg uwch, (iv) prentisiaid (v) staff prifysgol.

Darpar fyfyrwyr

Bydd pob aelod o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn derbyn rhif aelodaeth personol.  Bydd angen rhif aelodaeth wrth ymgeisio am Ysgoloriaethau’r Coleg, gwerth hyd at £3,000. Yn ogystal â hyn, byddwch yn derbyn y newyddion diweddaraf am ysgoloriaethau’r Coleg, digwyddiadau a ffeiriau UCAS. Gallwch ymaelodi drwy glicio yma.

Myfyrwyr presennol

Mae modd i fyfyrwyr mewn unrhyw sefydliad addysg uwch yng Nghymru ddod yn aelodau o’r Coleg.   Wrth ymaelodi bydd myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth yn dod yn aelodau o Gangen y Brifysgol hon a bydd cyfle iddynt:

Bydd cyfle i fyfyrwyr sy’n aelodau o’r Gangen ethol cynrychiolydd o’u plith i fod yn aelod o Fwrdd Academaidd y Coleg a chynrychioli myfyrwyr Gogledd a Gorllewin Cymru. 

Bydd aelodau hefyd yn derbyn y newyddion diweddaraf  am ysgoloriaethau, cynadleddau, swyddi a gweithgareddau’r Coleg. 

Gallwch ymaelodi drwy glicio yma.


PWYSIG Wrth ymaelodi, cofiwch ddewis cyfrinair gwahanol i’ch cyfrinair Prifysgol Aberystwyth

Staff Prifysgol

Mae aelodaeth o’r Coleg yn agored i’r holl staff academaidd ac academaidd-gysylltiedig sy’n dymuno bod yn aelodau o’r Coleg.

Os ydych chi’n ddarlithydd sy’n cyfrannu at y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn eich sefydliad neu’n cyfrannu at amcanion a gwaith y Coleg, byddwch chi'n ymaelodi fel Darlithydd Cysylltiol y Coleg.

Pwrpas y cynllun hwn yw creu cymuned fyw o ddarlithwyr sy’n cyfrannu at ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn y prifysgolion a chyfrannu at amcanion a gwaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Pam dod yn Ddarlithydd Cysylltiol y Coleg Cymraeg?

  • Bod yn rhan o gymuned amlddisgyblaethol cyfrwng Cymraeg a chyfleoedd i rwydweithio gyda darlithwyr eraill
  • Derbyn pecyn sefydlu a newyddlen y Coleg
  • Medru ymgeisio am grantiau'r Coleg
  • Medru manteisio ar raglen hyfforddiant i ddarlithwyr
  • Derbyn gwahoddiad i gynhadledd flynyddol y darlithwyr cysylltiol
  • Gallu ymgeisio am wobrau blynyddol y Coleg
  • Derbyn cyfleoedd marchnata amrywiol a chymorth perthnasol

Gellir ymaelodi drwy glicio yma.

PWYSIG Wrth ymaelodi, cofiwch ddewis cyfrinair gwahanol i’ch cyfrinair Prifysgol Aberystwyth

Myfyrwyr addysg bellach a phrentisiaid

Bydd myfyrwyr addysg bellach a phrentisiaid yn derbyn gwybodaeth am weithgareddau a datblygiadau'r Coleg, ynghyd â manylion am gyfleoedd a fydd yn codi o gynlluniau'r Coleg. Mae llawer o adnoddau i fyfyrwyr addysg bellach a phrentisiaid ar Borth Adnoddau'r Coleg.  Gellir ymaelodi drwy glicio yma.