Swyddi
Mae traddodiad hir o ddysgu pynciau drwy gyfrwng y Gymraeg yn Aberystwyth. Yn ystod y blynyddoedd diweddar mae’r Brifysgol wedi ychwanegu at gyfran ac ystod y ddarpariaeth Gymraeg drwy elwa ar ddarlithyddiaethau drwy Gynllun Staffio Academaidd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Mae’r canlynol oll yn ddarlithwyr Cymraeg a benodwyd drwy Gynllun Staffio Academaidd y Coleg. Mae llu o ddarlithwyr cyfrwng Cymraeg eraill sydd hefyd yn cyfrannu at y dysgu o fewn adrannau:
Dr Hefin Williams
Darlithydd Amaeth-Amgylcheddol cyfrwng Cymraeg yw Hefin ac mae ei feysydd ymchwil yn canolbwyntio ar fodelu sut mae pathogenau amaethyddol yn ymateb i newidiadau hinsoddol; twbercwlosis gwartheg a modelu addasrwydd cynefinoedd gofodol. Yn fab fferm o Fachynlleth, mae cefn gwlad wedi bod yn ei waed erioed. Wedi graddio ac ennill doethuriaeth ym meysydd cefn gwlad a’r amgylchedd, mae bellach yn ddarlithydd yn IBERS ac mae wrthi’n datblygu adnoddau a darpariaeth newydd.
Dr Huw Morgan
Seryddwr sy'n arbenigo yn yr haul yw Huw ac mae ei waith yn cynnwys dadansoddi arsylwadau coronaidd yr haul. Mae’n aelod blaenllaw o'r tîm gwyddonol eclips sy'n arwain y maes yn fyd eang. Wedi cyfnod o weithio yn y Sefydliad Seryddiaeth (IfA), Prifysgol Hawaii dychwelodd i Gymru i weithio fel darlithydd cyfrwng Cymraeg ffiseg yn y Sefydliad Mathemateg a Ffiseg.
Efallai bydd sawl un yn gyfarwydd ag ef o dan yr enw “Huw Haul” neu “Baswca” gan ei fod yn canu ac yn rheoli band roc, gan ryddhau sawl albwm yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Darllen mwy...
Dr Rhys Dafydd Jones
Roedd Rhys yn un o ddeiliaid ysgoloriaethau ymchwil y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a daeth yr ysgoloriaeth honno i ben yn 2011. Mae’n arbenigo mewn Daearyddiaeth Wleidyddol a thestun ei draethawd ymchwil oedd 'Amrywiaeth' a 'Chynwysoldeb'?: Islamgasineb yng Nghymru a Québec yn sgil y rhyfel ar derfysgaeth.
Fe’i penodwyd fel darlithydd Daearyddiaeth cyfrwng Cymraeg ym Medi 2011. Darllen mwy...
Dr Sharon Huws
Magwyd Sharon ar fferm yn Aberteifi. Graddiodd mewn Sŵoleg, cyn mynd ymlaen i astudio hyd at lefel Meistr a Doethuriaeth. Cwblhaodd ei gradd PhD oedd yn astudio rhyngweithiadau protosoa gyda chymunedau bacteria yn gynnar yn 2003 cyn symud ymlaen i swydd ôl-ddoethurol ym Mhrifysgol Caerfaddon, lle ymchwiliodd rhyngweithiadau protosoa gyda phathogenau. Dychwelodd i Aberystwyth i weithio fel microbiolegydd y rwmen yn y Sefydliad Ymchwil Glaswelltir ac Amgylcheddol (IGER). Unwyd IGER gyda Phrifysgol Aberystwyth yn 2008, i greu Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS), ac mae Sharon a’i grŵp yn arbenigo ar fioleg folecwlar y rwmen. Defnyddia'r dechnoleg ddiweddaraf, sef genomeg, metagenomeg a metatranscriptomeg, er mwyn ateb cwestiynau canolog ar weithgareddau’r micro-organebau yn y rwmen, ac er mwyn sicrhau argaeledd cig a llaeth o’r ansawdd gorau i’r dyfodol. Mae gan Sharon dros 30 o bapurau wedi eu cyhoeddi yn y maes gwyddor anifeiliaid ac mae wedi ennill dros £200 mil o gyllid i gynnal gwaith ymchwil yn y maes. Yn 2012, penodwyd Sharon i weithio fel darlithydd Gwyddor Anifeiliaid cyfrwng Cymraeg yn IBERS.
Dr Tudur Davies
Darlithydd Mathemateg cyfrwng Cymraeg yw Tudur, ac fe’i penodwyd yn 2012. Modelu ymateb rheolegol hylifau cymhleth megis ewynnau, trwy ddefnyddio efelychiadau rhifiadol, yw ei brif faes ymchwil. Mae’n arbenigo mewn modelu’r rhyngweithiad rhwng ewynnau hylifog a gwrthrychau caled; gwaith sydd â defnydd mewn prosesau diwydiannol megis gwahanu mineralau ac adfer olew o greigiau.
Dr Owen Thomas
Darlithydd yn yr Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes yw Owen ac mae ei feysydd ymchwil yn ymwneud â beirniadaeth lenyddol, theorïau cyfieithu yn ogystal â barddoniaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol. Bu’n darlithio yn Llanbedr Pont Steffan ac yn Abertawe cyn ymgymryd â’r swydd hon yn Aberystwyth i ddatblygu cynllun gradd cyfrwng Cymraeg i fyfyrwyr rhan-amser.
O Fedi 2013 bydd Prifysgol Aberystwyth yn cynnig darpariaeth cyfrwng Cymraeg unigryw i fyfyrwyr sydd am astudio’n rhan-amser ac o bell. Cynigir amrywiol gymwysterau a llwybrau dysgu i unigolion. Bydd myfyrwyr yn dysgu ar-lein a bydd cyfle i fyfyrwyr ar rai modiwlau fynychu cyrsiau preswyl. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Dr Owen Thomas.
Sara Penrhyn Jones
Penodwyd Sara yn ddarlithydd cyfrwng Cymraeg mewn cynhyrchu’r cyfryngau digidol yn yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu yn 2012. Mae ganddi BA mewn Llenyddiaeth Saesneg o Brifysgol Aberystwyth a Diploma mewn Newyddiaduraeth Ddarlledu o Brifysgol Caerdydd. Mae hi wedi gwneud gwaith camera a chyfarwyddo ar raglenni dogfen sydd yn arsylwi a ddangoswyd ar S4C a BBC2 ac mae hi wedi ennill gwobrau BAFTA Cymru a’r Gymdeithas Deledu Frenhinol am ei gwaith. Mae hi hefyd wedi ymgymryd â gwaith addysgiadol a chreu fideos cyfranogol. Yn ddiweddar, mae hi wedi mynychu trafodaethau’r Cenhedloedd Unedig ar Newid Hinsawdd gan ddefnyddio cyfryngau newydd er mwyn cyfrannu at ddiwylliant darlledu ac ymgyrchu mwy uniongyrchol. Mae ei gwaith yn y maes hwn yn wirioneddol ryngddisgyblaethol gan gyfuno’r celfyddydau, gwleidyddiaeth ryngwladol a’r gwyddorau.
Dr Rhun Emlyn
Mae Rhun yn hanesydd yr Oesoedd Canol, gyda diddordebau ymchwil arbennig mewn hanes eglwysig a gwleidyddol, yn ogystal â hanes Cymru. Roedd ei ddoethuriaeth, a noddwyd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, yn canolbwyntio ar fyfyrwyr canoloesol Cymreig, eu gyrfaoedd a’u dylanwad ar gymdeithas Ewrop a Chymru. Mae’n dysgu modiwlau ar hanes Cymru a hanes yr Oesoedd Canol yn yr Adran Hanes a Hanes Cymru. Fe’i penodwyd yn ddarlithydd Hanes cyfrwng Cymraeg ym Medi 2011. Darllen mwy...
Swyddi Cenedlaethol
Lleolir amryw o swyddi cenedlaethol a gyllidir gan y Coleg yma yn Aberystwyth.
- Cynorthwy-ydd Golygyddol Gwerddon a Swyddog Cyhoeddiadau
Cyfnodolyn academaidd ar-lein cyfrwng Cymraeg yw Gwerddon, sy’n gyfrwng i gyhoeddi erthyglau amlddisgyblaethol yn Gymraeg. Ceir rhagor o wybodaeth ar wefan Gwerddon neu cysylltwch â Gwenllian Lansdown Davies.
- Swyddog Prosiect Edward Llwyd
Mae’r Gangen yn gartref i Swyddog Prosiect Edward Llwyd sy’n gweithio ar ran y sector addysg uwch i hyrwyddo a chydlynu darpariaeth y gwyddorau’n Gymraeg. Mae’r pynciau hyn yn cynnwys Bioleg, Cemeg, Ffiseg, Mathemateg a Daearyddiaeth. I ddarganfod mwy am y cyfleoedd sydd ar gael i astudio’r gwyddorau drwy’r Gymraeg cysylltwch â Ffion Hughes
- Swyddog Datblygu: Gwyddorau Cymdeithas, Gwleidyddiaeth a’r Gyfraith
Mae’r Swyddog Prosiect Gwyddorau Cymdeithas yn cyfrannu at ddatblygiad cyffrous ym maes darpariaeth academaidd cyfrwng Cymraeg yn y Gwyddorau Cymdeithasol (i gynnwys y Gyfraith, Gwleidyddiaeth, Gwyddorau Cymdeithas ac Athroniaeth). Mae’r Swyddog yn cydweithio’n agos â swyddogion y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar amrediad o weithgareddau a phrosiectau yn codi o’r cynlluniau datblygu pynciol a chynlluniau prosiect yn y meysydd hyn. Am ragor o fanylion cysylltwch â Siôn Jobbins.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â...