Ysgoloriaethau
Mae’r Coleg yn cynnig ysgoloriaethau i fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig.
Ysgoloriaethau Israddedig
Mae nifer o gynlluniau gradd y Brifysgol, mewn amryw o feysydd academaidd yn gymwys ar gyfer ysgoloriaethau israddedig y Coleg. Am restr gyflawn o gyrsiau sy’n gymwys ar gyfer ysgoloriaeth yn Aberystwyth cliciwch yma. Bydd holl ddeiliaid yr ysgoloriaethau israddedig yn cael y cyfle i ymgymryd â chyfnod o brofiad gwaith wedi ei drefnu yn ogystal â gweithio tuag at gymhwyster Tystysgrif Sgiliau Iaith y Coleg.
(i) Prif Ysgoloriaethau
Gwerth y Prif Ysgoloriaethau yw £3000 (£1000 y flwyddyn) a chynigir rhain ar gyrsiau lle mae modd astudio 80 credyd y flwyddyn drwy gyfrwng y Gymraeg. Gofynnir i fyfyrwyr sy’n gwneud cais am Brif Ysgoloriaethau’r Coleg edrych yn ofalus ar y telerau a’r amodau ar wefan y Coleg sy’n nodi y bydd disgwyl i fyfyrwyr wneud cais i’r Brifysgol er mwyn sefyll ein arholiad mynediad ac er mwyn cael eu hystyried ar gyfer un o Brif Ysgoloriaethau’r Coleg. Prif Ysgoloriaethau
(ii) Ysgoloriaethau Cymhelliant
Mae’r Coleg hefyd yn cynnig Ysgoloriaethau Cymhelliant gwerth £1500 (£500 y flwyddyn) ar gyrsiau lle mae modd astudio 40 credyd y flwyddyn drwy gyfrwng y Gymraeg. Nid oes angen sefyll arholiad ar gyfer yr Ysgoloriaethau Cymhelliant.
Am fanylion llawn ar sut i wneud cais am ysgoloriaeth a ffurflenni cais, ewch i adran myfyrwyr gwefan y Coleg.
Peidiwch ag anghofio am Ysgoloriaethau, Bwrsariaethau a Gwobrau’r Brifysgol. Ceir mwy o fanylion yma.
Ysgoloriaethau Gradd Meistr
Mae'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn cynnig ysgoloriaethau gwerth hyd at £3,000 ar gyrsiau lle mae modd astudio o leiaf 60 credyd o ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn Rhan 1 (h.y. o leiaf 60 credyd o ddarpariaeth sy'n cael ei ddysgu drwy gyfrwng darlithoedd, seminarau neu diwtorialau Cymraeg). Mae rhaid i ddeiliaid yr Ysgoloriaethau Gradd Meistr lunio eu traethodau estynedig (neu'r hyn sy'n cyfateb i hynny) yn y Gymraeg hefyd. Am fanylion llawn ar sut i wneud cais am ysgoloriaeth a ffurflenni cais, ewch i adran myfyrwyr gwefan y Coleg Cymraeg.
Ysgoloriaethau Ymchwil
Mae Cynllun Ysgoloriaethau Ymchwil y Coleg yn cynnig grant cynhaliaeth a ffioedd sy’n gyfwerth â’r hyn a gynigir gan Gynghorau Ymchwil y DG (RCUK) i ddarpar academyddion sydd yn astudio ar gyfer doethuriaeth. Mae deiliaid yn derbyn nawdd i gwblhau gradd meistr yn eu blwyddyn gyntaf os nad ydynt eisoes wedi cwblhau Gradd Meistr cyn cychwyn ar eu doethuriaeth, ac yna tair blynedd o nawdd i gwblhau doethuriaeth. (Gall deiliaid sydd eisoes wedi cwblhau gradd meistr hepgor y flwyddyn meistr). Maent hefyd yn derbyn hyfforddiant mewn sgiliau addysgu ac yn magu profiad trwy gyfrannu at fodiwlau israddedig trwy gyfrwng y Gymraeg. Caiff pob deiliad flwyddyn ychwanegol o nawdd pan gânt eu cyflogi fel aelodau o staff academaidd o fewn eu hadrannau i gynllunio, datblygu a dysgu darpariaeth cyfrwng Cymraeg o’r newydd wedi iddynt gwblhau eu doethuriaeth. Mae Prifysgol Aberystwyth wedi derbyn 18 o’r ysgoloriaethau hyn er 2005/06. Y cymrodyr dysgu myfyrwyr ymchwil a cyfredol a noddir gan y cynllun hwn yn y Brifysgol yw:
Cymrodyr Dysgu
Bethan Davies
Mae Bethan yn hanu o Borthyrhyd, Sir Gaerfyrddin. Mae ganddi LLB yn y Gyfraith o Brifysgol Aberystwyth. Dechreuodd ddoethuriaeth sy’n canolbwyntio ar yr angen ymarferol a chyfreithiol dros gynyddu darpariaeth cyfrwng Cymraeg o fewn sefydliadau addysg uwch yng Nghymru gan edrych yn benodol ar addysg a hyfforddiant cyfreithiol cyfrwng Cymraeg yn 2009. Mae hi’n dysgu modiwlau ym maes y Gyfraith yn Adran y Gyfraith a Throseddeg.
Rowan O’Neill
Yn enedigol o Felinwynt ger Aberteifi, astudiodd Rowan Ddiwinyddiaeth ac Astudiaethau Crefyddol ym Mhrifysgol Caergrawnt cyn cwblhau MA mewn Gwneud Perfformiadau yng Ngholeg Goldsmiths, Prifysgol Llundain. Dechreuodd ei phrosiect doethurol, ‘Croesi’r Bar: Archwilio hunaniaeth trwy gyfrwng archif yr artist Cliff McLucas’, yn Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu, Prifysgol Aberystwyth, yn 2009. Ei maes dysgu yw Astudiaethau Theatr.
Ywain Tomos
Daw Ywain o Ddolgellau yn wreiddiol. Mae ganddo BA Astudiaethau Ffilm a Theledu o Brifysgol Aberystwyth. Dechreuodd ei ysgoloriaeth yn Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu, Prifysgol Aberystwyth, yn 2008. Teitl ei brosiect doethurol yw: ‘Esblygiad neu Chwyldro? Beth yw'r prif ddylanwadau ar anime Siapaniaidd yn dilyn ei ddatblygiad fel genre byd eang wrth edrych yn arbennig ar waith Hayao Miyazaki a Satoshi Kon?’. Mae’n dysgu modiwlau ym maes Astudiaethau Ffilm a Theledu.