Y Porth
Llwyfan e-ddysgu cenedlaethol y Coleg yw’r Porth. Astudir sawl modiwl cyfrwng Cymraeg drwy’r Porth ac yn ogystal â hynny, mae modd i fyfyrwyr gael mynediad i adnoddau Cymraeg mewn ystod o feysydd academaidd i gefnogi eu hastudiaethau.
Dysgir rhai modiwlau ar y cyd gyda phrifysgolion eraill, a bydd modd i fyfyrwyr Aberystwyth ymuno â chymuned fywiog o fyfyrwyr sy’n astudio’r un pwnc drwy’r Gymraeg mewn prifysgolion eraill.
Mae staff ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi chwarae rhan flaenllaw wrth ddatblygu modiwlau a deunyddiau ar Y Porth. Ymysg y rhain mae’r canlynol:
Adnoddau Ystadegol Daearyddol
Paratoi Problemau a Datrysiadau yn y Gwyddorau Ffisegol
'Cymru, Ewrop a'r Byd' - Pecyn Athrawon Bagloriaeth Cymru
Gwefan ‘Yn y Ffrâm’
... a llawer mwy.