Cynlluniau Cyllido
Mae yna amrywiaeth o gynlluniau ariannol arbenigol i gynorthwyo sefydliadau sy’n gweithio gyda phrifysgolion. Gyda’u profiad o ddatblygu ceisiadau am gyllid, gall staff Datblygu Busnes y GMY roi cyngor ar ffynonellau posibl o gyllid ar gyfer projectau penodol sy’n gysylltiedig â Phrifysgol Aberystwyth. Mewn nifer o achosion mae grantiau o hyd at 50% o gyfanswm y gost ar gael (mae rhai o’r rhaglenni hyn ar gael i fusnesau o fathau, meintiau a lleoliadau penodol yn unig).
Mae’r cynlluniau ariannu cyfredol i gefnogi Busnes / prosiectau Academaidd ar y cyd yn cynnwys:
- Prosiectau Ymchwil Ddiwydiannol ar y Cyd – darparu cyllid i annog a galluogi grwpiau o gwmnïoedd i gyflawni prosiectau diwydiannol ac Ymchwil a Datblygu ar y cyd.
- Mynediad i Feistr (ATM) - yn cefnogi cydweithredu rhwng sefydliadau yn Ardal Cydgyfeirio Cymru a Phrifysgol Aberystwyth drwy brosiectau ôl-raddedig sy'n rhan o'r graddau Meistr a addysgir.
- Ysgoloriaethau Sgiliau’r Economi Wybodaeth (KESS) – cefnogi projectau ymchwil ar y cyd (MPhil a PhD) sy’n gysylltiedig â busnesau sydd wedi’u lleoli yn Ardal Gydgyfeirio Cymru.
- Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth - cynnig ariannu hyd at 60% o adnoddau academaidd ar gyfer ymchwil neu ddatblygu cynnyrch newydd. Gall 'Classic KTP' prosiectau amrywio o 1-3 blynedd.
- Fframwaith Cymorth Deillio ym Mhrifysgol Aberystwyth – cynnig cefnogaeth i fusnesau sy’n Deillio o (neu’n deillio i) adrannau academaidd y Brifysgol. Mae’r pecyn yn cynnwys benthyciadau a/ neu gyllid ecwiti, cyllid grant tuag at gefnogaeth ymgynghorol a darparu hyfforddiant.
Ar unrhyw adeg benodol gallai fod yna gynlluniau cefnogaeth ariannol eraill ar gael; beth bynnag yw’ch prosiect, peidiwch ag oedi cyn cysylltu â GMY am fwy o wybodaeth.