Mentrau Cyfredol

Ar unrhyw adeg benodol mae yna nifer o fentrau y gallai’ch busnes fanteisio arnynt. Mae’r cyfleoedd cyfredol yn cynnwys: 

  • Canolfan Sgiliau CADARN - y lle i ddarganfod mwy am y Datblygiad Proffesiynol Parhaus a Hyfforddiant Sgiliau Lefel Uwch a gynigir gan Brifysgolion yng Ngogledd a Chanolbarth Cymru.
  • BEACON – mae BEACOn yn ganolfan ragoriaeth Bioburo sydd yn helpu busnesau Cymru i ddatblygu ffyrdd newydd o droi cnydau megis rhygwellt, ceirch a miscanthus (hesg eliffant) yn gynnyrch fferyllol, cemegol, tanwydd a chosmetig.
  • Unedau Creadigol Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth – stiwdios a gweithdai ar gyfer cymysgedd o artistiaid, busnesau celf a sefydliadau creadigol yng nghalon greadigol y Ganolfan
  • Mynediad i Feistr (ATM) -  yn cefnogi cydweithredu rhwng sefydliadau yn Ardal Cydgyfeirio Cymru a Phrifysgol Aberystwyth drwy brosiectau ôl-raddedig sy'n rhan o'r graddau Meistr a addysgir.
  • Ysgoloriaethau Sgiliau Economi Gwybodaeth (KESS) - cefnogi prosiectau ymchwil ar y cyd (MPhil a PhD) sy'n gysylltiedig â busnesau a leolir yn yr ardal Cydgyfeirio Cymru.
  • Sefydliad Amgylcheddau Cynaliadwy Cymru (Rhwydwaith WISE) -  cyfle unigryw i fusnesau weithio mewn partneriaeth gyda Phrifysgolion Aberystwyth, Bangor ac Abertawe. Mae'r prosiect yn anelu at greu diwylliant o bobl busnes hyderus sy’n defnyddio ymchwil, arbenigedd, technoleg ‘r gallu i arloesi fel elfen allweddol o’u datblygiad yn y dyfodol.
  • Cyfrifiadura Perfformiad Uchel (HPC) Cymru - gwasanaeth uwchgyfrifiadura cenedlaethol Cymru, sy'n ddarparu gwasanaeth uwchgyfrifiadura integredig i fusnesau ac ymchwilwyr, gan gynorthwyo prosiectau cydweithredol rhwng y ddau.
  • Cynghrair Meddalwedd Cymru - cefnogi arloesedd a thwf ymhlith y TGCh a'r Sector Meddalwedd o fewn yr ardaloedd Cydgyfeirio Cymru.
  • Fframwaith Cymorth Deillio – pecyn cymorth i fusnesau sydd am ‘Ddeillio i mewn’ neu ‘Ddeillio allan’ o’r Brifysgol
  • Lleoliadau Myfyrwyr/ Graddedigion a Chynlluniau Profiad Gwaith -  wedi’u cydlynu gan y Gwasanaeth Cynghori ar Yrfaoedd ym Mhrifysgol Aberystwyth

Yn ogystal â’r cynlluniau a restrir uchod, mae’r Brifysgol yn cynnig ystod o wasanaethau i fusnesau. Am wybodaeth bellach, neu i drafod eich anghenion ag aelod o’n tîm Datblygu Busnes, cysylltwch â GMY.