Adrian Harvey
Swyddog Sgiliau a Menter CADARN
Cyswllt
E-bost: avh@aber.ac.uk
Swyddfa: Y Ganolfan Delweddu, Campws Pensglais
Ffôn: +44 (0) 01970 622368
Ffacs: +44 (0) 01970 622959
Cyfrifoldebau
Mae ei waith fel Swyddog Sgiliau a Menter Canolfan Sgiliau CADARN yn golygu bod Adrian yn adnabod anghenion sgiliau busnesau a sefydliadau ac yn trefnu hyfforddiant ym Mhrifysgol Aberystwyth i gwrdd â’r galw. Rhan allweddol o’i waith yw cydgysylltu ag academyddion yn y Brifysgol er mwyn adnabod meysydd posibl ar gyfer Datblygiad Proffesiynol Parhaus. Drwy'r Ganolfan, mae Adrian yn cydweithio tipyn â Gwasanaeth Cynghori ar Yrfaoedd y Brifysgol er mwyn hybu cyflogadwyedd graddedigion ac adnabod sgiliau cyflogadwyedd graddedigion sydd eu hangen ar fusnesau.
Bywgraffiad
Cyn ymuno â Phrifysgol Aberystwyth, bu Adrian yn aelod o’r tîm rheoli a ail-lansiodd farchnad flaenllaw Cyngor Dinas Manceinion, ‘Marchnad Arndale Manceinion’. Yn ystod ei gyfnod gyda Chyngor Dinas Manceinion, fe’i henwebwyd ar gyfer ‘Gwobr Seren ar Gynnydd Cyngor Dinas Manceinion 2008’. Symudodd Adrian i Aberystwyth yn 2009 gan weithio yn y Gwasanaethau Preswyl a Chroeso cyn ymuno â’r Gwasanaethau Masnacheiddio ac Ymgynghori. Enillodd Adrian radd Cymdeithaseg a Throseddeg o Brifysgol Lerpwl ac mae e’n dysgu Cymraeg ar hyn o bryd.
Dolennau
Lawrlwythwch vCard - Adrian Harvey