Tony Orme

Photograph of Tony Orme.

Rheolwr Menter

Cyswllt

E-bost: awo@aber.ac.uk
Swyddfa: Y Ganolfan Delweddu, Campws Penglais
Ffôn: +44 (0) 01970 622203
Ffacs: +44 (0) 01970 622959

Cyfrifoldebau

Tony Orme yw Rheolwr Mentrau Prifysgol Aberystwyth. Rhan o’i waith yw cydlynu ystod o weithgareddau menter ar gyfer myfyrwyr, graddedigion a staff, gan gynnwys Clwb Menter Crisalis, rhwydwaith Hyrwyddwyr Academaidd Menter ac Wythnos Dechrau Busnes.

Bywgraffiad

Cyn iddo ddechrau ar ei waith fel Rheolwr Menter, bu Tony yn Rheolwr Deillio ym Mhrifysgol Aberystwyth am 10 mlynedd a mwy. Graddiodd mewn Astudiaethau Busnes ym Mholytechnig Hatfield cyn ymuno â Laura Ashley Cyf fel person graddedig dan hyfforddiant, lle bu’n gweithio yn yr adran llenni a deunyddiau am nifer o flynyddoedd, cyn dod yn Rheolwr Sicrhau Ansawdd yno. Ar ôl i’r swydd gael ei dileu, ymunodd Tony â TEC Powys, lle bu’n gyfrifol am gynorthwyo Busnesau Bychain a Chanolig lleol â’u hanghenion hyfforddi staff, gan gynnwys gweinyddu menter Buddsoddwyr mewn Pobl. Cafodd secondiad o’r TEC am sawl blwyddyn er mwyn rhedeg Grŵp Gweithgynhyrchu Canolbarth Cymru, gan ddychwelyd i TEC Canolbarth Cymru ar ei newydd wedd fel Rheolwr Gweithrediadau cyn ymuno â’r Brifysgol.

Mae gan Tony ddiddordeb arbennig mewn sefydlu busnesau; bod yn aelod o Fwrdd Menter Pobl Ifainc Strategol Canolbarth Cymru a ‘model rôl Dynamo’, gan weithio mewn ysgolion a cholegau yn hybu  hunangyflogaeth.

Dolennau

Lawrlwythwch vCard - Tony Orme