Liz Flint
Cyfarwyddwr,GMY
Cyswllt
E-bost: ejf@aber.ac.uk
Swyddfa: Y Ganolfan Delweddu, Campws Penglais
Ffôn: +44 (0) 01970 622305
Ffacs: +44 (0) 01970 622959
Cyfrifoldebau
Liz yw Dirprwy Gyfarwyddwr a Rheolwr Datblygu Busnes y Gwasanaethau Masnacheiddio ac Ymgynghori. Mae ei phrif gyfrifoldebau yn cynnwys meithrin a hwyluso cysylltiadau rhwng y Brifysgol a byd busnes, arwain a datblygu’r tîm datblygu busnes yn Aberystwyth, a rheoli perthynas Aberystwyth ag ystod o gleientiaid o’r sectorau cyhoeddus a phreifat, gan gynnwys cyllidwyr. Mae ei phrosiectau cyfredol yn cynnwys:
- Sefydliad Amgylcheddau Cynaliadwy Cymru (Rhwydwaith WISE) – gwaith cydweithredol parhaus rhwng 3 Prifysgol yng Nghymru
- Sgiliau, gan gynnwys Canolfan Sgiliau Aber-Bangor, a mentrau a gyllidir gan yr UE megis Ysgoloriaethau Sgiliau’r Economi Wybodaeth (KESS)
- Rheoli cyfrifon prif gleientiaid corfforaethol
- Arwain datblygiad strategaeth Aberystwyth ar gyfer twf incwm masnachol