Dr James Hudson
Rheolwr Trosglwyddo Technoleg
Cyswllt
E-bost: jmh@aber.ac.uk
Swyddfa: Y Ganolfan Delweddu, Campws Penglais
Ffôn: +44 (0) 01970 628504
Ffacs: +44 (0) 01970 622959
Cyfrifoldebau
James Hudson yw Rheolwr Trosglwyddo Technoleg y Brifysgol ac ef sy’n cydlynu’r tîm Trosglwyddo Technoleg yn y Gwasanaethau Masnacheiddio ac Ymgynghori. Mae ei brif gyfrifoldebau yn ymwneud â rheoli portffolio Eiddo Deallusol y Brifysgol gan gynnwys:
- Cynghori staff ar faterion Eiddo Deallusol
- Cydweithio ag academyddion y Brifysgol i adnabod prosiectau â photensial masnachol
- Asesu ac amddiffyn Eiddo Deallusol sy’n codi o weithgaredd ymchwil
- Adnabod llwybrau masnacheiddio posibl a cherrig milltir ar gyfer prosiectau
- Broceru trafodaethau â phartïon allanol sydd â diddordeb mewn cyfleoedd trwyddedu sy’n codi o bortffolio Eiddo Deallusol Aberystwyth
- Trafod a rheoli cytundebau sy’n ymwneud ag eiddo deallusol ac ymchwil