Lewis Richards

Photograph of Lewis Richards.

Swyddog Prosiect a Datblygu Busnes KESS

Cyswllt

E-bost: lhr@aber.ac.uk
Swyddfa: Y Ganolfan Delweddu, Campws Penglais
Ffôn: +44 (0) 01970 628579
Ffacs: +44 (0) 01970 622959

Cyfrifoldebau

Lewis sy’n trefnu’r rhaglen Ysgoloriaethau Sgiliau’r Economi Wybodaeth (KESS) ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae’r Ysgoloriaethau hyn, sy’n derbyn Arian Cymdeithasol Ewrop (ESF), yn cefnogi prosiectau ymchwil cydweithredol (Meistr Ymchwil a PhD) gyda busnesau a leolir yn ardal Gydgyfeirio Cymru (Gorllewin Cymru a’r Cymoedd).

Bywgraffiad

Cynymuno â’r Gwasanaethau Masnacheiddio ac Ymgynghori, bu Lewis yn rheoli’r lleoliadau GO Wales yn y Gwasanaeth Cynghori ar Yrfaoedd ym Mhrifysgol Aberystwyth. Golygai hynny gydweithio â busnesau ledled y Canolbarth er mwyn dod o hyd i fyfyrwyr a graddedigion addas ar gyfer lleoliadau am dâl.

Ar ôl graddio o Brifysgol Aberystwyth mewn Llenyddiaeth Saesneg, aeth Lewis i Siapan i ddysgu Saesneg. Symudodd oddi yno i Wlad Thai, lle bu’n gweithio ym myd cyfryngau  print ac ar lein cyn ymgymryd â swydd Cyfarwyddwr Rhagleni Omni Training Solutions.

Ar ôl dychwelyd i’r DU, bu Lewis yn gweithio fel Rheolwr Hyfforddi Hyfforddiant YMCA yn Welwyn Garden City cyn dychwelyd i Aberystwyth.


Dolennau

Lawrlwythwch vCard - Lewis Richards