Dr Rhian Hayward
Swyddog Trosglwyddo Technoleg
Cyswllt
E-bost: rih@aber.ac.uk
Swyddfa: Y Ganolfan Delweddu, Campws Penglais
Ffôn: +44 (0) 01970 628744
Ffacs: +44 (0) 01970 622959
Cyfrifoldebau
Mae Rhian yn cydweithio â James Hudson i amddiffyn a masnacheiddio Eiddo Deallusol y Brifysgol. Mae cyfrifoldebau penodol Rhian hefyd yn ymestyn i:
- Adnabod ac amddiffyn Eiddo Deallusol newydd ar draws y Brifysgol
- Datblygu strategaethau Marchnata mewnol ac allanol ar gyfer Trosglwyddo Technoleg
- Adnabod trwyddedigion masnachol newydd ar gyfer technolegau’r Brifysgol a chytundebau broceru
Bywgraffiad
Cyn ymuno â’r Gwasanaethau Masnacheiddio ac Ymgynghori, fe sefydlodd Rhian Rhian Hayward Consulting Cyf, gan gynghori buddsoddwyr, prifysgolion a Busnesau Bychain a Chanolig ar fasnacheiddio technolegau gwyddor bywyd yn y cyfnod cynnar. Mae ei phrofiad o ddatblygu technoleg a thechnolegau proteomeg â mewnbwn arbennig o uchel yn deillio o 10 mlynedd o brofiad mewn gwahanol swyddi masnachol yn y diwydiant biotechnoleg. Ymhlith y cwmnïau y bu Rhian yn gweithio iddynt y mae Sense Proteomic Cyf, Procognia Cyf ac Abcam ccc. Enillodd Rhian radd DPhil ym Mhrifysgol Rhydychen a gwneud gwaith ymchwil ôl-ddoethurol yn Labordy Clefydau Parasitig, NIH, U.D.A. Mae ganddi radd BSc (dosbarth cyntaf) o Goleg King’s, Llundain.
Dolennau
Lawrlwythwch vCard -
Rhian Hayward