Wirat Prapakamon (Micky)

Swyddog Gweinyddol - Mynediad i Feistr (ATM)
Photograph of Wirat Prapakamon (Micky).

Cyswllt

Ebost: wip6@aber.ac.uk
Swyddfa: Y Ganolfan Delweddu, Penglais
Rhif Ffon: +44 (0) 1970 628788
Ffacs: +44 (0) 1970 622959

Cyfrifoldebau

Swyddog Gweinyddol ar gyfer prosiect Mynediad i Meistr (ATM) yw Micky, gan ddarparu cefnogaeth weinyddol gyffredinol ar gyfer y Swyddog Prosiect a Datblygu Busnes a prosiect ATM yn gyffredinol.

Bywgraffiad

Cyn symud i Aberystwyth, roedd Micky yn byw yn Bangkok ac yn gweithio fel Swyddog Prosiect Corfforaethol ar gyfer Clymblaid Busnes Gwlad Thai ar AIDS (TBCA) ac aeth ymlaen i weithio ym Mhrifysgol Sripatum fel Golygydd eu cylchgronau misol. Mae gan Micky radd mewn Newyddiaduraeth o Brifysgol y Siambr Fasnach Thai.

Cyn ymuno â GMY, roedd Micky yn Ddirprwy Reolwr yn Barnardos Aberystwyth.