Cystadleuaeth £100 am 100 Gair – 2011

Mae'r gystadleuaeth wedi cau erbyn hyn ac mae’r cofnodion yn cael eu hadolygu. Mwy o wybodaeth i ddilyn yn fuan.

Yn aml, y syniadau symlaf yw’r rhai gorau...os oes gennych syniad da am gynnyrch neu wasanaeth newydd a fyddai’n diwallu angen yn Lleol, yn Genedlaethol neu’n Rhyngwladol, dyma’ch cyfle i grisialu’ch syniadau mewn 100 gair... bydd y syniad gorau ym mhob categori yn ennill £100.

Rhaid i geisiadau gyrraedd erbyn 5 y prynhawn ddydd Gwener 16 Rhagfyr 2011.

Mae’r gystadleuaeth ar agor i unrhyw fyfyriwr sydd wedi’i gofrestru ar hyn o bryd ar unrhyw gwrs ym Mhrifysgol Aberystwyth.

TAIR Gwobr o £100, un wobr am y syniad mwyaf mentrus gyda’r potensial masnachol gorau yn y tri chategori isod:

  • NEWYDD: Syniad am gynnyrch neu wasanaeth hollol newydd a fyddai’n ymdrin ag angen gwirioneddol, yn genedlaethol neu’n rhyngwladol.  
  • GWELLA: Syniad am wella cynnyrch neu wasanaeth presennol, a fyddai’n ymdrin ag angen gwirioneddol, yn genedlaethol neu’n rhyngwladol.
  • BUSNES ABER: Syniad am fusnes newydd (naill ai i wneud elw neu’n fenter gymunedol) a fyddai’n ymdrin ag angen gwirioneddol yn ardal Aberystwyth.

Byddwn yn gwobrwyo’r syniad gorau ym mhob categori, gyda’r cyfuniad gorau o:

  • Syniad Arloesol
  • Potensial Masnachol
  • Ansawdd ‘Disglair’

Y Broses Gystadlu:

Lawrlwytho ffurflen gystadlu y gystadleuaeth

£100 am 100 gair - gwybodaeth y gystadleuaeth

Mae angen cyflwyno’ch syniadau ar ffurflen gystadlu drwy ebost i crisalis@aber.ac.uk, gyda’r pennawd “£100 am 100 gair”.

Rhaid i geisiadau gyrraedd erbyn 5 y prynhawn ddydd Gwener 16 Rhagfyr 2011.

Gwybodaeth Bellach:

Fel rhan o Wythnos Fenter 2011, nod y gystadleuaeth yw ysgogi syniadau newydd am fusnesau (yn gynigion pendant am fusnesau neu’n gynigion “cysyniadol”) ac i hyrwyddo’r cymorth y mae’r Brifysgol yn ei gynnig i fyfyrwyr sy’n cael syniadau da.

Efallai y hoffech wybod hefyd am:


Welsh Government and European Funding logo