Cystadleuaeth Dyfeisio 2010

Fe lansiodd Gwasanaethau Masnacheiddio ac Ymgynghori’r Brifysgol (GMY) ‘Gystadleuaeth Dyfeisio’ ym mis Gorffennaf i annog staff a myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth i gael eu technolegau i mewn i’r farchnad – gan gynnig gwobr o £2000 am y syniad mwyaf dyfeisgar a mwyaf addawol yn fasnachol.

Roedd y tîm Trosglwyddo Technoleg yn GMY wrth eu bodd â’r ymateb a dderbyniwyd, a’r  cynnigion a ddaeth i law wedi dod o sawl adran ledled y Brifysgol.  

Dr Martin Wilding, enillydd Cystadleuaeth Dyfeisio 2010, gyda Dr Rhian Hayward o GMY.Wrth sôn am y gystadleuaeth, dywedodd y Dirprwy Is-Ganghellor yr Athro Aled Jones: “Mae’r gystadleuaeth newydd hon yn gyfle rhagorol i amlygu a dathlu’r ymchwil a wneir gan staff a myfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth, ymchwil sy’n arloesol ac sydd â’r potensial i wella bywydau.”

Mae GMY yn falch o gyhoeddi mai enillydd cystadleuaeth 2010 yw Dr Martin Wilding o’r Sefydliad Mathemateg a Ffiseg. Mae syniad Dr Wilding yn ymwneud â thechnegau newydd ar gyfer cynhyrchu cerameg gwydr tryloyw. Gallai’r ddyfais arwain at welliannau yn nodweddion tryloyw crochenwaith swmp yn ogystal â gwell effeithlonrwydd cost wrth eu cynhyrchu. 

“Roedd y cynnigion a ddaeth i law yn cynnwys nifer o syniadau addawol, ac rydym wrth ein bodd bod cynifer o adrannau’r Brifysgol wedi cymryd rhan” esboniodd Dr Rhian Hayward, Swyddog Trosglwyddo Technoleg yn GMY. “Yn ogysal â’r cynnig buddugol, bu modd i ni gymryd nifer o’r technolegau eraill ymlaen i’w masnacheiddio gyda chymorth Cronfa Datblygiad Cynnar drwy gynllun A4B Llywodraeth Cynulliad Cymru.”

Mae’r Gwasanaethau Masnacheiddio ac Ymgynghori wrthi drwy’r adeg yn chwilio am syniadau a dyfeisiau newydd o fewn y Brifysgol. I gael gwybod mwy am y gefnogaeth a’r cyfleoedd ariannu sydd ar gael, cysylltwch â Dr Rhian Hayward drwy rih@aber.ac.uk, neu ffoniwch 01970 628744, neu ewch i www.aber.ac.uk/ccs.

Mae gan y tîm Trosglwyddo Technoleg stôr cynyddol o dechnolegau sy’n dangos addewid o ran eu potensial i gael eu masnacheiddio. Mae’r tîm mewn cysylltiad â nifer o fusnesau yng Nghymru, ledled y Deyrnas Unedig a gweddill y byd i chwilio am gyfleoedd trwyddedu a throsglwyddo eiddo deallusol Prifysgol Aberystwyth i fyd diwydiant fel rhan o drydedd genhadaeth y Brifysgol.

 Gwybodaeth gefndirol:

Mae Prifysgol Aberystwyth yn cydweithio’n agos â busnesau i ddatblygu a masnacheiddio technolegau o safon fyd-eang. Mewn blynyddoedd diweddar mae swyddfa Trosglwyddo Technoleg (GMY) wedi llwyddo i drwyddedu nifer o gynhyrchion a gwasanaethau, ac wedi sefydlu sawl cwmni deillio ar sail arloesiadau newydd Prifysgol Aberystwyth. Croesawn bob ymholiad a mynegiannau o ddiddordeb yn ein portffolio technoleg, ac ymfalchiwn yn ein gwasanaeth proffesiynol a gwybodus i fyd diwydiant.

Gellir dod o hyd i bortffolio cyfleoedd technoleg Prifysgol Aberystwyth yn:

http://www.aber.ac.uk/en/ccs/business/services/technology/