Y Brifysgol yn mentro i farchnad apiau ffermio
18 July 2012

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi datblygu ei ‘hap’ masnachol cyntaf i’r sector ffermio, a lansir yn swyddogol yn y Sioe Frenhinol ddydd Mawrth, 24 Gorffennaf.
Dr Chrstianne Glossop, Prif Swyddog Meddygol i Lywodraeth Cymru, fydd y siaradwraig wadd yn y lansiad.
Bydd yr ap ‘farmGRAZE’, a seilir ar arbenigedd tîm o Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS), yn helpu ffermwyr i reoli pori eu da byw yn fwy effeithlon, gan arbed arian ar borthiant a gwrtaith.
Bydd yr ap hwn i’r android yn golygu y bydd ffermwyr yn gallu cyfrif faint o dir pori sydd ar gael i’w stoc, a hynny mewn cae penodol, neu ar draws eu daliad i gyd.
Esboniodd Dr Rhian Hayward o Wasanaethau Masnacheiddio ac Ymgynghori y Brifysgol, “Mae’r ap hwn yn deillio o gystadleuaeth apiau i’r staff a’r myfyrwyr a gynhaliwyd y llynedd i droi syniadau o waith ymchwil yn apiau ar gyfer offer symudol.
“Mae’r brifysgol mewn sefyllfa gref i wireddu’r potensial masnachol yn ein technolegau a’n harbenigedd. Mae troi gwaith ymchwil yn gynnyrch a gwasanaethau masnachol yn bwysig inni ac rwy’n siŵr y cawn weld llawer mwy o apiau yn cael eu datblygu yn y dyfodol.”
Dwy fersiwn o’r ap sydd ar gael i ffermwyr. Bydd y fersiwn am ddim yn helpu ffermwyr i wella eu penderfyniadau rheoli, gan wellau eu tir pori ac yn cynnig cyngor ar reoli eu tir glas.
Bydd y fersiwn sydd ar werth (£5.99) yn mynd gam ymhellach ac fe fydd yn cadw data mesuriadau gwair, plotio gwybodaeth am borfeydd ar ffurf graffiau, anfon gwybodaeth allan i’ch cyfrif ebost ar ffurf taenlenni, a gosod nodiadau ar galendr eich ffôn poced i’ch atgoffa chi i wirio taldra’ch gweiriau.
Datblygwyd farmGRAZE mewn partneriaeth ag Arkuris Ltd a’r datblygwyr meddalwedd CEMAS. Cewch ragor o wybodaeth ar y wefan: www.mobilefarmapps.com
Y Wasg a’r Cyfryngau:
Cynhelir y lansiad ym Mhafiliwn Addysg Prifysgol Aberystwyth ar faes y sioe ddydd Mawrth 24 Gorffennaf o 9 tan 11 y bore. Bydd y Brifysgol yn cyflwyno mobileFARM, farmGRAZE a horseRATION i’r gynulleidfa, ac wedyn fe geir lluniaeth ac anerchiad gan Dr Glossop. Bydd mobileFARM yn ymddangos ar raglan Ffermio, S4C, ar ddydd Llun 30 Gorffennaf am 8.25pm.
Nôl i'r brig