Llwyddiant Rhaglen Lleoliadau yn ei Blwyddyn Gyntaf

29 August 2012

null

Yn ei flwyddyn gyntaf mae’r Rhaglen Cyd-ddealltwriaeth Strategol wedi ariannu 18 lleoliad unigryw ym Mhrifysgol Aberystwyth i helpu staff a busnesau i ddechrau ystyried ffyrdd o gydweithredu â’i gilydd.

Mae’r rhaglen yn gweithredu ledled gwledydd Prydain, gan ddarparu lleoliadau yn y sectorau Preifat, Cyhoeddus a Gwirfoddol, yn cwmpasu amrywiaeth o feysydd megis arddangosfeydd cyhoeddus, rheoli asedau digidol, adrodd straeon yn rhyngweithiol, rheoli archifau, meddalwedd hyfforddi ar-lein, polisi tramor, a datblygu rhaglenni meddalwedd.

Mae’r adnodd hwn yn golygu bod y cyfranogwyr yn gallu treulio amser yn meithrin cysylltiadau allanol, sydd yn cefnogi, yn uniongyrchol, un o amcanion strategol y Brifysgol, sef:  
‘cyfrannu at greu cyfoeth ac at ddatblygiad economaidd yn rhanbarthol ac yn genedlaethol drwy gynnal gweithgareddau ar y cyd â chyrff masnachol, diwydiannol a phroffesiynol a chyrff yn y sector cyhoeddus’

Mae’r ail flwyddyn ar gychwyn, ac rydym yn ailagor y drefn ymgeisio am leoliadau ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Awst 2012 a 28 Mehefin 2013.

Am ragor o wybodaeth cysylltwch ag Adrian Harvey - 01970 622368 / 0772812912, avh@aber.ac.uk.
 



Nôl i'r brig