Rhwydwaith Busnes Prifysgol Aberystwyth
Mae Rhwydwaith Busnes Prifysgol Aberystwyth, a sefydlwyd yn 2007, yn cynnig cyfleoedd i fusnesau a’r proffesiynau gyfarfod â staff academaidd a masnachol y Brifysgol.
Cynhelir y digwyddiadau ar y campws, ac maent yn trafod ystod eang o themâu sy’n gysylltiedig â gweithgareddau Trosglwyddo Gwybodaeth. Daw gwesteion o’r Canolbarth a thu hwnt i fynychu’r digwyddiadau hyn sy’n cynnig cyflwyniadau cyweirnod i brocio’r meddwl yn ogystal â chyfleoedd i rwydweithio.

Os hoffech dderbyn gwybodaeth bellach am Rwydwaith Busnes Prifysgol Aberystwyth, cysylltwch â’r Gwasanaethau Masnacheiddio ac Ymgynghori. Cynhelir y digwyddiadau deirgwaith y flwyddyn, ac anfonir gwahoddiadau ymlaen llaw.
Gallwch weld manylion digwyddiadau blaenorol yma.
Efallai y byddwch hefyd â diddordeb mewn:
Gweithio mewn Partneriaeth – Darganfod sut y gallai eich busnes elwa o’r gwasanaethau a gynigir gan Brifysgol Aberystwyth:
- Cynnyrch a Gwasanaethau i Fusnes
- Mentrau Cyfredol
- Digwyddiadau i Fusnes
- Arian i Gefnogi Cydweithredu