Cymorth Dechrau Busnes

Rhwydwaith Menter Crisalis

Mae Prifysgol Aberystwyth yn cefnogi myfyrwyr, graddedigion a staff sydd am ddechrau busnesau newydd yn lleol, yn enwedig mewn achosion lle mae’r busnesau’n gysylltiedig â gwybodaeth ac arbenigedd y Brifysgol. 

Rhedir Rhwydwaith Menter Crisalis gan dîm Menter GMY, ac mae’n helpu cleientiaid trwy gynnig gwybodaeth, cyngor, hyfforddiant, lle a chyllid.



Cymorth Deillio

Y Gwasanaeth Masnacheiddio ac Ymgynghori sydd bennaf gyfrifol am harneisio egni ymchwil y Brifysgol i greu busnesau Deillio y mae’r Brifysgol fel arfer yn brif gyfranddaliwr ynddynt. Mae’r gweithgarwch hwn yn arbennig o gryf yn y sector amaethyddol ac amgylcheddol.

Gan weithio mewn partneriaeth â Chronfa Datblygiad Cynnar Cyllid Cymru, mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnig Cefnogaeth deillio i fusnesau newydd sy’n ‘Deillio allan’ (neu’n ‘Deillio i mewn’) o adrannau academaidd y Brifysgol.