'Create Your Own Job'

Dydd Mawrth 21 Chwefror 2012: 18.15 - 19.45

Medrus, Penbryn, Campws Penglais

Gyda llai a llai o swyddi ar gael ar hyn o bryd, mae’n gwneud synnwyr i ystyried creu eich swydd eich hun drwy sefydlu busnes rhan amser neu lawn amser

Boed diddordeb eisoes mewn menter a hunangyflogaeth, neu am ystyried eich dewisiadau gyrfa ar gyfer y dyfodol, dyma’ch cyfle i holi pobl â meddylfryd mentergarol ynglŷn â’r hyn sydd ei angen i fod yn llwyddiannus.

Arweinir y drafodaeth gan banel o bedwar mentergarwr llwyddiannus sy’n gweithio mewn sectorau amrywiol (bywyd gwyllt/ y gwyddorau, cyfrifiaduro, cyhoeddi a theledu), yn ogystal â staff o’r Brifysgol. Gallwn warantu trafodaeth anffurfiol a bywiog!

Am wybod mwy am aelodau’r panel?  -  Darllenwch eu bywgraffiadau isod.

Trefnir y digwyddiad gan y Gwasanaethau Masnacheiddio ac Ymgynghori, Y Gwasanaethau Gyrfaoedd ac Urdd y Myfyrwyr.



Sut i Gofrestru:

Cofrestrwch ar-lein

 

Fel arall:

ebost: crisalis@aber.ac.uk

ffôn: 01970 622203



 

Cofrestrwch ar-lein

Ymunwch â'r drafodaeth - #AUCreateyourjob

Manylion Pellach

Aelodau'r Panel:

Layla Bennett

Sylfaenydd a Pherchennog, Hawksdrift Falconry

Layla BennettMae Hawksdrift Falconry yn fusnes adar ysglyfaethus sy’n darparu gwasanaeth rheoli plâu, sioeau hebogyddiaeth, a gwasanaeth dosbarthu anrhegion gan ddefnyddio adar. Llwyddodd Layla i gael buddsoddiad £50mil ar raglen Dragon’s Den y BBC yn 2010, ac enillodd wobr ‘Mentergarwr Ifanc y Flwyddyn’ yng Ngwobrau Busnes Powys 2009.

Ed Pereira

Cyfarwyddwr, Pear Media

Ed Pereira Mae Ed Pereira yn fentergarwr sydd wedi cael sawl llwyddiant. Dechreuodd ei fusnes cyntaf tra ei fod yn astudio llenyddiaeth Sbaeneg ym Mhrifysgol Abertawe. Mae’n olygydd cylchgrawn sydd wedi ennill nifer o wobrau, ac mae’n un o gyn enillwyr y wobr Mentergarwr Ifanc y Flwyddyn. Mae’n Gyfarwyddwr ar y cylchgrawn a chwmnïau dosbarthu Pear, yn gyflwynydd teledu rhyngwladol, yn ymgynghorwr mentergarwch ac yn ymgynghorydd i’r Llywodraeth.



Karl Doody

Rheolwr Gyfarwyddwr, 27stars

Karl DoodyKarl yw sylfaenydd a rheolwr gyfarwyddwr y cwmni datblygu meddalwedd 27stars. Mae 27stars wedi gweithio â busnesau o bob maint, o gwmnïau cychwynnol un person, i’r brandiau corfforaethol mwyaf megis Coca Cola a Google

Lucy Gough

Dramodydd Hunangyflogedig 

Lucy Gough, Freelance Playwright Gadawodd Lucy Gough yr ysgol yn 15 oed. Cafodd ei phlant yn ifanc, ac fe ddechreuodd astudio gyda’r Brifysgol Agored tra’n magu ei theulu ifanc. Cyflawnodd ei gradd yn Aberystwyth cyn mynd ymlaen i wneud gradd MA ym Mirmingham. Bu’n gweithio fel ysgrifennwr hunangyflogedig, gan ysgrifennu ar gyfer y theatr, y radio a’r teledu (gan gynnwys Hollyoaks) am y 18 mlynedd ddiwethaf...ac mae’n brawf bod modd gwneud bywoliaeth drwy waith o’r fath.



Cadeiriwyd gan:

Tony Orme

Rheolwr Menter
Gwasanaethau Masnacheiddio ac Ymgynhori
Prifysgol Aberystwyth University

Tony Orme, Enterprise Manager Tony Orme yw Rheolwr Mentrau Prifysgol Aberystwyth. Rhan o’i waith yw cydlynu ystod o weithgareddau menter ar gyfer myfyrwyr, graddedigion a staff, gan gynnwys Clwb Menter Crisalis, rhwydwaith Hyrwyddwyr Academaidd Menter ac Wythnos Dechrau Busnes.

Mae gan Tony ddiddordeb arbennig mewn sefydlu busnesau; bod yn aelod o Fwrdd Menter Pobl Ifainc Strategol Canolbarth Cymru a ‘model rôl Dynamo’, gan weithio mewn ysgolion a cholegau yn hybu  hunangyflogaeth.






Carolyn Parry

Dirprwy Gyfarwyddwr Dros Dro
Y Gwasanaeth Gyrfaoedd
Prifysgol Aberystwyth

Carolyn ParryMae gan Carolyn Parry ddiddordeb byw mewn mentergarwch ac mae’n cynnal darlithoedd a gweithdai i fyfyrwyr ac addysgwyr menter yn Aberystwyth a thu hwnt. Yn ddiweddar bu’n aelod ar y panel beirniadu ar gyfer y gystadleuaeth ShellLiveWire i gyllido busnesau cychwynnol.

Cyn symud i weithio ym maes Cynghori ar Yrfaoedd Addysg Uwch, roedd mentrau blaenorol Carolyn yn cynnwys cyhoeddi’r cylchgrawn cyntaf yn y Deyrnas Unedig ar werthiant a marchnata, a werthwyd i gystadleuwr ar ôl llwyddo i adeiladu sylfaen cwsmeriaid o’r radd flaenaf.