Gwobr CaisDyfeisio

 

Mae cystadleuaeth Gwobr CaisDyfeisio yn cynnig cyfle i ysgogi syniadau newydd am gynhyrchion neu wasanaethau, gan fyfyrwyr Aberystwyth, y gellir eu datblygu'n fusnesau llwyddiannus.

 

Ceir un wobr sy'n cynnwys gwerth hyd at £20,000 o gymorth i'r busnes buddugol, gan gynnwys:

  • Cymorth Dechrau Busnes a'r costau
  • Mentora Technegol
  • Diogelu Eiddo Deallusol ... a llawer mwy!

Dyfernir y wobr i'r syniad busnes (cynnyrch neu wasanaeth) y bernir fod ganddo'r cyfuniad gorau o botensial gwerthiant/trosiant/elw, arloesi, ymwybyddiaeth busnes/masnachol yr ymgeisydd ac ymrwymiad yr ymgeisydd i sefydlu menter newydd.

Mae'r gystadleuaeth ar agor i holl fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth (israddedig ac uwchraddedig) sy'n gofrestredig yn ystod y cyfnod rhwng mis Medi 2012 a mis Mai 2013 ac sydd â diddordeb mewn troi eu syniad am gynnyrch neu wasanaeth yn fenter busnes newydd. Croesawir ceisiadau gan unigolion a thimau.

 

Sut i gymryd rhan

Adolygu telerau ac amodau a chwblhewch y ffurflen gais isod:

 

Dylid cwblhau ceisiadau a'u cyflwyno erbyn 12.00 canol dydd Gwener 1 Chwefror 2013.

Caiff y ceisiadau a gyflwynir eu hadolygu a thynnir rhestr fer. Yna bydd y sawl sydd ar y rhestr fer yn cael eu gwahodd 'werthu' eu syniadau busnes i banel o feirniaid (mewn cyfweliad ar ffurf “Dragons Den”). Mwy am y beirniaid yma

 

Angen cymorth gyda’ch cais?

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y gystadleuaeth nad yw'r ddogfennau uchod yn eu hateb, cysylltwch yn ddi-oed:

Tony Orme - Rheolwr Menter, GMY - inventerprize@aber.ac.uk – 01970 622203 – 07773 471245

 


Find us on Facebook

 

Dewch i’n gweld ar Facebook - 'Rhwydwaith Menter Prifysgol Aberystwyth'

Caiff y gystadleuaeth ei hariannu gan y Gronfa Flynyddol trwy Adran Datblygu a Chysylltiadau Alumni, a'i threfnu gan yr Adran Gwasanaethau Masnacheiddio ac Ymgynghori (GMY) gyda chefnogaeth Undeb y Myfyrwyr a'r Gwasanaeth Gyrfaoedd.