Gwobr CaisDyfeisio - y Beirniaid
Bydd cystadleuaeth Gwobr CaisDyfeisio i fyfyrwyr yn cael eu beirniadu gan banel o Alumni amlwg y Brifysgol sydd wedi ennill bri yn y busnes a meysydd menter.
Jane Clayton – Mae Jane yn gyfrifydd siartredig cymwysedig ac yn Gyfarwyddwr anweithredol profiadol. Hi ar hyn o bryd yw Cadeirydd Bay Leisure Limited a Chyfarwyddwr Practis Graham Evans & Partners LLP. Mae ei rolau anweithredol wedi cynnwys cyfarwyddwr a Chadeirydd Cymdeithas Adeiladu Abertawe a chyfarwyddwr anweithredol Cyllid Cymru ccc. Roedd yn ddarlithydd mewn Cyfrifeg a Busnes ym Mhrifysgol Abertawe (1982-2005) a bu'n Llywydd Clwb Busnes Abertawe ac yn Uchel Siryf Gorllewin Morgannwg.
Nigel Davies – Ar ôl graddio ac ymgymryd ag astudiaethau uwchraddedig yn Aberystwyth, bu Nigel yn gweithio am 30 mlynedd mewn technoleg gorfforaethol a busnes. Yn 2003 ef oedd cyfarwyddwr sylfaen Innoval Technology, sy'n ymgynghoriaeth yn seiliedig ar dechnoleg yn y DU, ac sydd â chleientiaid yn fyd-eang. Yn ddiweddar prynwyd Innoval gan Danieli, corfforaeth amlwladol o'r Eidal.
Tony Diment - Cyfalafwr menter profiadol sydd wedi gweithio yn 3i, Gresham Trust plc ac yn fwyaf diweddar fel rheolwr gyfarwyddwr Cronfa Fenter Caergrawnt. Ymhlith diddordebau Tony mae Cascade Fund Management (cronfa her i brifysgolion Brunel, Reading, Royal Holloway, Surrey a Sussex), Mercia Seed Fund (Prifysgolion Warwick, Birmingham ac eraill yng nghanolbarth Lloegr) a'r Thames Valley Growth Fund (a sefydlwyd i ddarparu ffynhonnell gynaliadwy o gyllid cychwynnol i entrepreneuriaid yn Nyffryn Tafwys). Ymddeolodd yn ddiweddar ar ôl 13 blynedd gyda Foresight VCT, cronfa'n buddsoddi mewn cwmnïau technoleg yn y DU.
>>>Nôi i Wobr CaisDyfeisio>>>>
Donald Davies - Athro Emeritws mewn Tocsicoleg yng Ngholeg Imperial Llundain a Chyfarwyddwr Sylfaen ML Laboratories plc (deunydd fferyllol) un o'r cwmnïau biodechnoleg cyntaf i'w restru ar Farchnad Stoc Llundain.
Peter Gradwell - Astudiodd Peter Beirianneg Meddalwedd yn Aber, gan raddio yn 2002. Tra'r oedd yn y Brifysgol sefydlodd ei gwmni cyfathrebu rhyngrwyd ei hun, Gradwell dot com Ltd, sydd erbyn hyn yn cyflogi 45 o bobl ac sydd ag incwm blynyddol sydd dros £4m. Mae Peter yn angerddol am entrepreneuriaeth ac yn gweld fod synergedd naturiol rhwng y Wobr hon a nodau ac amcanion corfforaethol Gradwell.
Huw Morgan – Ag yntau'n Gyn Bennaeth Bancio Busnes, Banc HSBC plc, gweithiodd Huw i HSBC am y rhan fwyaf o'i yrfa gwaith. Yn fwyaf diweddar roedd yn gyfrifol am Fancio Busnes a Masnachfreintio yn y DU. Daeth yn gymrawd Sefydliad Siartredig Bancio yn 2004. Huw oedd Cadeirydd 4 blynedd diwethaf ymglymiad HSBC yn Start Up Stars, oedd yn gystadleuaeth genedlaethol i fusnesau newydd, gyda nodweddion tebyg i'r gystadleuaeth hon.