Lawns Gwobr CaisDyfeisio:

Ymynwch â ni yn  nigwyddiad lawns Gwobr CaisDyfeisio am gyfle I glywed straeon bywyd go iawn o entrepreneuriaid llwyddiannus.

Dydd Mawrth 16 Hydref 2012: 18.15 - 19.45

Medrus, Penbryn, Campws Penglais

Cofrestrwch heddiw! - inventerprize@aber.ac.uk

Trefnir y digwyddiad gan y Gwasanaethau Masnacheiddio ac Ymgynghori a swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Alumni



Aelodau'r Panel:

Layla Bennett

Sylfaenydd a Pherchennog, Hawksdrift Falconry

Layla BennettMae Hawksdrift Falconry yn fusnes adar ysglyfaethus sy’n darparu gwasanaeth rheoli plâu, sioeau hebogyddiaeth, a gwasanaeth dosbarthu anrhegion gan ddefnyddio adar. Llwyddodd Layla i gael buddsoddiad £50mil ar raglen Dragon’s Den y BBC yn 2010, ac enillodd wobr ‘Mentergarwr Ifanc y Flwyddyn’ yng Ngwobrau Busnes Powys 2009.

Gwyliwch Layla yn sicrhau buddsoddiad o £ 50,000 yn y ‘Den’:

'Dragon's Den'

Terry Crump

Dyfeiswr, Crazy 18 golf

Dyluniwyd Crazy 18 Golf, sef gêm golff gwallgo’, gan Terry yn 2004. Dyfeisiodd Terry y gêm ar ôl gwylio’i fab yn gosod rhwystrau ar fat gwersylla polyester wrth ymarfer ei sgiliau pytio. Mae Crazy 18 Golf wedi ennill sêl bendith Academïau Golff Meistri Ifainc ac mae hefyd ar gael mewn siopau golff proffesiynol.

 

 

 

Ben Giles

Rheolwr Gyfarwyddwr, Ultima Cleaning Ltd.

 

Gadawodd Ben yr ysgol yn 16 oed a dechreuodd rownd glanhau ffenestri; ers hynny mae wedi sefydlu busnesau llwyddiannus ac arloesol iawn, megis Ultima Cleaning Cyf. Datblygodd Ben hynny ymhellach a sefydlu Academi Genedlaethol Glanhawyr Safleoedd Troseddau, sef busnes Proffesiynol Achrededig sy’n arbenigo ar lanhau safleoedd troseddau ac yn cynnig gwasanaethau hyfforddi i’r diwydiant adfer bioberyglon ym Mhrydain. Penodwyd Ben yn Hyrwyddwr Mentergarwch Busnes i Lywodraeth Cymru



Cadeiriwyd gan:

Tony Orme

Rheolwr Menter, Gwasanaethau Masnacheiddio ac Ymgynhori, Prifysgol Aberystwyth

Tony Orme, Enterprise Manager Tony Orme yw Rheolwr Mentrau Prifysgol Aberystwyth. Rhan o’i waith yw cydlynu ystod o weithgareddau menter ar gyfer myfyrwyr, graddedigion a staff, gan gynnwys Clwb Menter Crisalis, rhwydwaith Hyrwyddwyr Academaidd Menter ac Wythnos Dechrau Busnes.

Julian Smyth

Cyfarwyddwr Datblygu a Chysylltiadau Alumni, Prifysgol Aberystwyth

Mae Julian wedi bod yn Gyfarwyddwr Datblygu yng Ngholeg Linacre, Rhydychen, yn Brif Weithredwr LandAid, yn Gyfarwyddwr Bradfield Foundation a Chyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Ysgol Sherborne. Ac yntau wedi graddio o Brifysgol Nottingham, cyn dod i weithio i Aber ef oedd Prif Ymgynghorwr ASK Associates, sef ymgynghoriaeth ddatblygu addysgol.

Find us on Facebook

 

Dewch i’n gweld ar Facebook - 'Rhwydwaith Menter Prifysgol Aberystwyth'

Caiff y gystadleuaeth ei hariannu gan y Gronfa Flynyddol trwy Adran Datblygu a Chysylltiadau Alumni, a'i threfnu gan yr Adran Gwasanaethau Masnacheiddio ac Ymgynghori (GMY) gyda chefnogaeth Undeb y Myfyrwyr a'r Gwasanaeth Gyrfaoedd.