Cefnogaeth Menter i Fyfyrwyr a Graddedigion

Gwybodaeth:

  • Mae sesiynau gwybodaeth cychwynnol cwbl gyfrinachol gyda Tony Orme (Rheolwr All-ddeillio Masnachol) ar gael i unrhyw un sydd â syniad newydd am fusnes, ac sydd am drafod y materion a’r dewisiadau sydd ar gael os ydych am droi’r syniad yn fenter newydd.
  • Cynhelir hefyd sesiynau gwybodaeth i Israddedigion am gychwyn Mentrau mewn adrannau academaidd. Gall adrannau archebu’r sesiynau drwy gysylltu â Tony Orme.

Cyngor:

  • Cynigir sesiynau hyfforddi a mentora un i un, trwy raglenni Cymorth Hyblyg i Fusnes, a Rhaglen Cymorth Cychwyn Busnesau Graddedigion Llywodraeth Cynulliad Cymru, i israddedigion ar eu blwyddyn olaf a phobl sydd wedi graddio o fewn y pum mlynedd ddiwethaf a’u busnes yn debygol o gyflogi eraill, ac o drosi o leiaf £25,000 yn y flwyddyn gyntaf (6 mis cyn cychwyn a 12 mis ar ôl cychwyn).

Hyfforddiant:

  • Mae Rhwydwaith Menter Crisalis yn cynnal digwyddiadau rheolaidd ar y Campws i hybu menter, gan ddefnyddio modelau rôl Dynamo o fyd diwydiant.
  • Mae’r Rhwydwaith hefyd yn cynnal gweithdai modwlar Cymorth Cychwyn Busnesau Graddedigion (GSS) i helpu pobl i ddatblygu gwahanol agweddau ar eu cynlluniau busnes. 
  • Ddwywaith y flwyddyn, bob Ionawr a Mehefin, mae Crisalis yn rhedeg Wythnos Dechrau Busnes, sy’n cynnwys wythnos gron o weithgareddau menter ar y cyd â Technium Aberystwyth.
  • Mae Crisalis yn cynnig cyfleoedd hyfforddi allanol mewn menter yn rheolaidd, megis cystadleuaeth flynyddol FLUX; dewisir chwe myfyriwr i gynrychioli’r Brifysgol yn y gystadleuaeth genedlaethol hon.

Lle:

  • Lle bo modd, ceisiwn gynorthwyo cleientiaid drwy ganfod lleoedd addas i gychwyn, naill ai ar, neu oddi ar, y campws.  

Cyllido:

  • Mae Crisalis yn hybu Bwrsarïau Menter Cymorth Cychwyn Busnesau Graddedigion. Mae pob un werth £6,000 i gefnogi busnesau graddedigion sydd â’r potensial i dyfu ac sy’n debygol o gyflogi eraill a chynhyrchu trosiant o £80,000 yn y flwyddyn gyntaf.
  • Cefnogwn fusnesau All-ddeillio/Mewn-ddeillio drwy ein partneriaeth â Chronfa Datblygiad Cynnar Cyllid Cymru.
  • Rydym hefyd yn darparu gwybodaeth am fathau eraill o grantiau sydd ar gael i helpu i gychwyn busnesau, megis cyllideb Cronfa Fuddsoddi Sengl Llywodraeth Cynulliad Cymru a chyllideb ‘Cronfa Buddsoddi Lleol’ yr Awdurdod Lleol.

Efallai y byddwch hefyd â diddordeb mewn: