Cefnogi Cwmnïau Deillio
Mae Prifysgol Aberystwyth yn gweithio mewn partneriaeth â Chronfa Datblygiad Cynnar Cyllid Cymru i gynnig cefnogaeth deillio i fusnesau newydd sy’n deillio i mewn (neu ddeillio allan) o adrannau academaidd y Brifysgol. Mae sawl elfen i gefnogaeth All-ddeillio, sef
- Benthyciad sy’n dwyn llog o hyd at £25,000, i’w ad-dalu dros gyfnod o 60 mis.
- Benthyciad a/neu gyllid ecwiti ychwanegol oddi wrth Gyllid Cymru, yn dibynnu ar ofynion cyllido’r busnes newydd.
- Cyllid grant tuag at Ymchwil Farchnata ac Ymgynghoriaeth Dechnegol Arbenigol (yn cynnwys ymgynghori ar gynllunio busnes; gwaith ymchwil farchnata; ffioedd cyfreithiol a chefnogaeth gyfrifyddol). Cyllid Cymru yng Nghaerdydd fydd yn cytuno ar hyn gan ddibynnu ar ba mor debygol yw y bydd y busnes am gael benthyciad.
I ddarganfod mwy am ddeillio i mewn neu allan To discover more about 'Spin-out' / 'Spin-in' cyfleoedd a'r cymorth Menter ar gael i fyfyrwyr, graddedigion a staff, cysylltwch â:
Tony Orme, Rheolwr Menter
Ff: 01970 622203
Ebost: awo@aber.ac.uk