Cynnig Gwasanaethau Ymgynghorol

Mae’r Brifysgol yn ymrwymedig i ddarparu arbenigedd i gwmnïau cleient lleol, rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol drwy gynnig gwasanaethau ymgynghorol.

Pa gefnogaeth sydd ar gael i staff sy’n dymuno cynnig gwasanaethau ymgynghorol?  

O drafodaethau cychwynnol am gyfleoedd yn y farchnad i drefniadau cytundebol a phrosesu taliadau,  mae GMY yn cynnig ystod o wasanaethau i gynorthwyo academyddion i ddarparu gwasanaethau ymgynghorol. Mae GMY yn gweithio ar ran cwmnïau cleient i sicrhau bod prosiectau ymgynghorol yn cael eu cyflawni dan gontractau dilys. Contractir y projectau ymgynghorol drwy Abertec Cyf, cwmni masnachu dan berchnogaeth lwyr y Brifysgol sy’n darparu yswiriant indemniad proffesiynol ar gyfer yr holl waith sy’n cael ei gyflawni.

 Beth ddylwn i wneud os oes cwmni’n gofyn imi gynnig gwasanaethau ymgynghorol?

Os ydych yn derbyn cais, fel aelod o staff academaidd, gan drydydd parti i gyflawni gwaith ymgynghorol, dylech gysylltu â GMY cyn gynted â phosib. Yn dilyn trafodaethau â chi, bydd GMY yn cytuno ar bris am y gwaith ac yn gosod trefniadau cytundebol priodol yn eu lle. Ar ôl cwblhau’r gwaith bydd GMY yn anfonebu’r cwmni cleient ac yn dosbarthu unrhyw refeniw o’r gwaith ymgynghorol yn unol â’r cytundeb.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau sy’n ymwneud â Gwasanaethau Ymgynghorol ac Eiddo Deallusol cysylltwch â Chris Heidt (Rheolwr Contractau a Gweithrediadau Masnachol) neu James Hudson (Rheolwr Trosglwyddo Technoleg).