Ysgoloriaethau Mynediad i Feistr

Fel rhan o’r rhaglen Mynediad i Feistr (ATM) ariennir yn rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop, mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnig nifer o ysgoloriaethau I fyfyrwyr sy’n cychwyn gradd Meistr a ddysgir trw gwrs.

I wneud cais, mae’n rhaid:

  • bod gennych gyfeiriad yn Ardal Gydgyfeirio Cymru pan wnewch eich cais a bof gennych hawl i wiethio yn yr Ardal Gydgyfeirio ar ôl gorffen eich ysgoloriaeth.
  • bod yn gymwys ar gyfer ffioedd Myfyrwyr Cartref/Undeb Ewropeaidd.
  • bod gennych (neu’n disgwyl cael) o leiaf gradd 2:1 anrhydedd (neu gymhwyster cyfwerth).
  • i chi fod wedi gwneud cais ffurfiol eisoes i’r Brifysgol am le yn un o’r rhaglenni Meistr cymwys. Os nad ydych eto wedi gwneud cais am le i astudio, ewch i wefan y Swyddfa Derbyn Graddedigion am wybodaeth ynghylch cais.

Manylion pellach:

Mae’r ysgoloriaethau yn rhan o raglan Mynediad i Feistr (ATM) a gefnogir gan Gronfa Gydgyfeirio Gymdeithasol Ewrop a weinyddir gan Lywodraeth Cymru a wedi’u cysylltu â chwmni partneriaethol allanol. Mae bartneriaid allanol sydd â sylfaen weithredol yn yr ardal Gydgyfeirio yn gymwys i gymryd rhan, gyda'r pwyslais ar Fusnesau Bach a Chanolig (BBaChau). Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Microfusnesau a BBaChau
  • Cwmnïau Mawr
  • Sefydloadau yn y Trydydd Sector a nifer cyfyngedig yn y Sector Cyhoeddus

Bydd sefydliadau allanol yn elwa o brosiect ymchwil uwchraddedig wedi'u teilwra i fodloni lles y sefydliad wrth i bob myfyriwr Meistr fynd ar leoliad ac fel arfer yn cwblhau prosiect traethawd hir gyda'r sefydliad.

Bydd nifer y lleoedd sydd ar gael ar gyrsiau, a ariennir gan ATM, yn cael ei gyfyngu gan faint o sefydliadau allanol sydd wedi gwneud cais i fod yn bartner a nifer y lleoliadau a phrosiectau diffiniedig. O ganlyniad, bydd y broses o wneud cais yn gystadleuol gyda'r myfyrwyr gorau yn ennill y cyllid. Ar ôl cwblhau elfennau’r cwrs yn llwyddiannus, bydd pob myfyriwr yn ymgymryd â gwaith prosiect lleoliad gyda'r partner cwmni, a fydd mewn llawer o achosion yn cael ei ddatblygu fel traethawd hir.

Proses Ymgeisio:

Manylion pellach a ffuflenni cais



Ariennir ATM yn rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy raglan Gydgyfeirio’r Undeb Ewropeaidd a weinyddir gan Lywodraeth Cymru.