Ysgoloriaethau Sgiliau’r Economi Wybodaeth (KESS)

Mae Ysgoloriaethau Sgiliau’r Economi Wybodaeth (KESS) yn cefnogi projectau ymchwil sydd yn cyfuno arbenigedd academaidd ag anghenion ymchwil yn canolbwyntio ar fusnes.

Gall KESS gefnogi prosiectau ymchwil sy’n para blwyddyn ac sy’n gysylltiedig â chymhwyster MPhil (KESS Mini).

Mae’n rhaid i’r prosiectau fod yn gysylltiedig â phartner cwmni sy’n seiliedig mewn ardal Gydgyfeirio yng Nghymru ac mae’n rhaid bodloni meini prawf o ran cymhwyster.



Gwybodaeth i Staff 

Gwahoddir ceisiadau am yr Ysgoloriaethau sy’n weddill o ran Sgiliau’r Economi Wybodaeth (KESS), a hynny ar gyfer prosiectau ymchwil sy’n para blwyddyn.

Mae cyllid ar gael ar gyfer prosiectau sy’n paru arbenigedd academaidd ac anghenion ymchwil sy’n canolbwyntio ar fusnes. Gall myfyrwyr gyflawni prosiect KESS Mini (prosiect ymchwil sy’n para blwyddyn ac sy’n gysylltiedig â chymhwyster MPhil). Ni fydd rhaid talu ffioedd a bydd y myfyrwyr yn cael tâl o £9,000 sy’n rhydd o dreth a chyllideb o tua £5,000 (gyda £200 ychwanegol ar gyfer goruchwylwyr academaidd). 

Bydd angen i academyddion a chanddynt ddiddordeb mewn goruchwylio myfyriwr sy’n cael ei ariannu drwy raglen KESS ystyried y materion a ganlyn:

Y prosiect

Rhaid i’r prosiect ymchwil gydweddu ag un o’r sectorau sy’n flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru (Economi Carbon Isel / Iechyd a’r Biowyddorau / Gweithgynhyrchu a Pheirianneg Uwch / yr Economi Ddigidol)

Y partner

Rhaid i gwmni neu sefydliad fod yn rhan o’r prosiect, felly dylai’r prosiect fod yn berthnasol iddo. Rhaid bod ganddo ganolfan weithredol yn Ardal Gydgyfeirio Cymru a rhaid iddo fod yn barod i gyfrannu at y prosiect yn ariannol a thrwy gynorthwyo â’r gwaith goruchwylio.

Y myfyriwr

Gellir recriwtio’r myfyriwr ar ôl cymeradwyo’r prosiect. Gall myfyrwyr fynd yn eu blaenau i gyflawni PhD gyda chyllid amgen, ond bydd angen iddyn nhw gwblhau’u cymhwyster MPhil, felly ni fydd modd iddyn nhw ddefnyddio’r gwaith sy’n cael ei gyflwyno ar gyfer yr MPhil ar gyfer eu PhD.

Gwybodaeth am yr ysgoloriaethau KESS sydd ar gael

Caiff yr ysgoloriaethau KESS sydd ar gael eu hysbysebu ar wefan Uwch Sgiliau Cymru ac ar weddalennau adrannol unigol Prifysgol Aberystwyth.

Mae ffurflen gais KESS ar gael drwy’r dolenni isod:

Ffurflen Gais i gymryd rhan mewn KESS



Rhagor o wybodaeth:

Lewis Richards, Swyddog Prosiect a Datblygu Busnes KESS

Ffôn: 01970 628579
E-bost: lhr@aber.ac.uk

Mae’n bosibl y bydd gennych ddiddordeb hefyd mewn:

European Union and Welsh Assembly Government Logo 

Caiff ysgoloriaethau KESS eu cyllido’n rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop trwy Raglen Gydgyfeirio’r Undeb Ewropeaidd (Gorllewin Cymru a'r Cymoedd) gan Lywodraeth Cymru