Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth

Mae’r cynllun Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth (PTG) yn rhaglen a gefnogir gan y Llywodraeth ac a redir gan y Bwrdd Strategaeth Technoleg. Nod y rhaglen yw cynyddu trosglwyddiad gwybodaeth rhwng sefydliadau Addysg Uwch a busnesau trwy gydweithio ar brosiect penodol.

Mae’r Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth yn cynnig cyfle i bartneriaid wneud y canlynol:

  • Cyhoeddi papurau ymchwil o ansawdd uchel
  • Sbarduno arloesedd
  • Arwain prosiectau cydweithredol gwerth chweil â busnesau arloesol
  • Goruchwylio a mentora ôl-raddedigion sy’n gweithio ar brosiectau mewn cwmnïau.  
  • Cael syniadau ar gyfer ymchwil pellach a phrosiectau datblygu

Fel rheol, mae PTG yn cynnwys o leiaf un Partner (myfyriwr graddedig) a gyflogir gan brifysgol neu goleg i weithio mewn cwmni ar brosiect penodol sydd o fudd i’r ddau barti. Goruchwylir y partner gan fentor academaidd o’r sefydliad sy’n cymryd rhan ac aelod o staff o’r cwmni. Gall PTG bara hyd at 3 blynedd ac fe allai arwain at gyflogaeth tymor hir i’r partner ar ôl cwblhau’r PTG.

Os hoffech wybod mwy am PTGau a sut y gall eich adran gymryd rhan, cysylltwch â Chris Heidt i drefnu apwyntiad cyfrinachol. Gall GMY eich cynorthwyo i wneud cais, a’ch helpu i ganfod cwmni addas sy’n cyfateb i’r arbenigedd y gall Prifysgol Aberystwyth ei gynnig.