Rhaglen Cyd-ddealltwriaeth Strategol (SIP)

 Mae’r Rhaglen Cyd-ddealltwriaeth Strategol (SIP), sef prosiect arloesi ac ymgysylltu gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, ar agor i geisiadau gan aelodau o staff y Brifysgol sydd â diddordeb mewn meithrin cysylltiadau â phartneriaid allanol drwy leoliadau gwaith, wedi’u hariannu, mewn sefydliadau yn y Deyrnas Unedig.

Mae’r lleoliadau gwaith hyn yn gyfle i staff dreulio amser y tu allan i’r Brisfysgol i ddatblygu cysylltiadau newydd, rhannu gwybodaeth a chanfod cyfleoedd i gydweithio yn y dyfodol â sefydliadau allanol.

Gall staff sy’n dymuno cyfranogi o leoliad gwaith weithio ag unrhyw sefydliad yn y sector preifat, cyhoeddus neu gwirfoddol.

Pam?

Nod y Rhaglen yw galluogi mwy o staff i ymwneud â phrosiectau sy’n cyfrannu tuag at ddatblygiad economaidd, cymdeithasol a diwylliannol. Drwy hyn, bydd y prosiectau yn datblygu sgiliau a gwybodaeth staff y Brifysgol; meithrin cysylltiadau newydd gyda sefydliadau allanol er mwyn trosglwyddo gwybodaeth er budd y naill sefydliad a’r llall, a helpu i bontio’r bwlch rhwng theori ac arfer.

Trwy ddatblygu cysylltiadau strategol newydd y gobaith yw y bydd prosiectau cydweithredol pellach yn y dyfodol, er enghraifft partneriaethau trosglwyddo gwybodaeth, lleoliadau gwaith i fyfyrwyr, ymgynghori a hyfforddiant.

Sut mae’n gweithio?

Anogir staff i ddatblygu eu cynnig am leoliad drwy weithio’n agos â’u sefydliad partneriaethol posibl i sicrhau bod y meini prawf y Rhaglen yn cael eu bodloni, a bod y ddau sefydliad yn elwa cymaint â phosib o’r trefniant.

Mae’r cynllun yn galluogi staff o’r Sefydliadau Addysg Uwch sy’n cymryd rhan yn y Rhaglen i ymgymryd â lleoliad gwaith tymor byr, wedi’i ariannu’n llawn, am uchafswm o 50 diwrnod gwaith, mewn sefydliad yn y sector cyhoeddus, preifat neu nid-er-elw.

Gofynnir i ymgeiswyr lenwi a llofnodi ffurflen gais, cael llofnod eu rheolwr llinell, cyswllt y sefydliad partneriaethol a’u hanfon ymlaen at y cyswllt PA – Adrian Harvey, avh@aber.ac.uk. Ar ôl cael ei gymeradwyo, trosglwyddir y cais i’r Swyddfa Prosiect, i gael ei ystyried yng nghyd-destun y meini prawf gan Weinyddwr a Rheolwr y Rhaglen. Bydd Rheolwr y Rhaglen yna’n gwneud penderfyniad parthed cymeradwyaeth derfynol. Lawrlwythwch Proses Ceisio SIP Prifysgol Aberystwyth.

Yn dilyn hyn, cysylltir â’r sefydliad partneriaethol i drafod y prosiect, esbonio sut mae’r Rhaglen yn gweithio, a chadarnhau eu cefnogaeth ar gyfer y lleoliad gwaith. Heb y cadarnhad hwn ni fydd modd trefnu’r lleoliad.


Bydd galw am geisiadau yn cau mis Mawrth 2013. Lleoliadau i'w cwblhau cyn Mehefin 2013.

Lawrlwythwch

Ffurflen Gais SIP

Taflen Gwybodaeth SIP

 

Astudiaeth Achos SIP

Llwyddodd Dr Marco Odello, Uwch Ddarlithydd yn Adran Cyfraith a Throseddeg Prifysgol Aberystwyth, i sicrhau cyllid SIP i weithio gyda Chyfarwyddiaeth Gyfreithiol y Swyddfa Dramor a Chymanwlad yn Llundain. Mae hon yn enghraifft wych o bartneriaeth strategol werthfawr syʼn debyg o arwain at gydweithio pwysig rhwng Llywodraeth ac AU. Cliciwch yma am ragor o wybodaeth...