Eiddo Deallusol - Diffiniadau
Mathau o Eiddo Deallusol:
Mae Hawlfraint yn hawl awtomatig anghofrestredig yn y ffordd y mynegir syniad (o'i gymharu â hawl yn y syniad ei hun), gan gynnwys creadigaethau llenyddol, celfyddydol a gwybodaeth ar ffurf electronig.
Mae Hawlfraint mewn Côd Medalwedd yn estyniad diweddar o amddiffyn hawlfraint sy'n peri bod meddalwedd cyfrifiadurol yn gymwys i'w amdiffyn yn yr un ffordd â deunydd llenyddol.
Hawliau Cronfeydd Data: amddiffyn data neu wybodaeth sydd wedi eu trefnu mewn ffordd systematig neu fanwl ac sydd ar gael yn electronig neu ar ffurf papur. Ceir yr hawliau hyn yn awtomatig yn unol â chyfraith hawlfraint.
Dyluniadau Anghofrestredig: amddiffyn siâp, ymddangosiad cynnyrch marchnadwy neu gynnyrch y gellir ei farchnata ac yn codi yn unol â chyfraith hawlfraint.
Dyluniadau Cofrestredig: amddiffyn yr un nodweddion ond ceir caniatâd yn dilyn archwiliad.
Gwybodaeth e.e. rysait Coca Cola yw'r wybodaeth, yr wybodaeth ymarferol a'r sgîl sydd eu hangen i gyrraedd rhyw nod ymarferol ac mae'n cynnwys cyfrinachau masnachol a thechnegau cefndirol, e.e. fformiwlâu mathemategol, cô d meddalwedd neu strwythurau cemegol. Ceir yr hawliau hyn yn awtomatig yn belled na chaiff yr wybodaeth ei datgelu.
Patent e.e. mae Dyson yn hawl fonopoli sy'n amddiffyn dyfeisiadau ar gyfer cynnyrch neu brosesau o natur ffwythiannol neu dechnegol. I ennill statws sy'n amddiffyn patent rhaid i'r ddyfas fod yn wreiddiol, iddo iddo gynnwys cam dyfeisgar a bod o ddefnydd i ddiwydiant.
Mae Hawliau Bridwyr Planhigion yn amddiffyn yn gyfreithiol fathau newydd o blanhigion ac fe'u rhoddir i'r bridiwr wrth iddo wneud cais. (Mae angen caniatâd blaenorol cyn y gellir denyddio'r math newydd o blanhigion at ddibenion masnachol). Er mwyn bod yn gymwys, rhaid i'r panhigyn newydd fod:
- yn wahanol
- yn unffurf
- yn sefydlog
- yn wreiddiol
Nodau Masnach: Mae Nike, Mars, Orange, Bluetooth a Phrifysgol Aberystwyth oll yn nodau masnach llwyddiannus sy'n dynodi gwraidd ac ansawdd y cynnyrch y maent yn gysylltiedig âhwy. Gall nodau masnach godi yn awtomatig neu gellir eu cofrestru gyda'r Gofrestrfa Nodau Masnach yn y Swyddfa Batentau.
Diffiniadau Cysylltiedig:
Diwydrwydd Dyladwy yw'r broses o ymchwilio i honiad, megis a ellir rhoi patent ar dechnoleg, neu a oes marchnad ar gyfer y dechnoleg honno.
Ffurflen Datgelu Dyfeisiad - Yn dilyn trafodaeth gychwynnol gydag aelod o'r tîm Trosglwyddo Technoleg, gofynnir i'r ddyfeisydd cwblhau Ffurflen Datgelu Dyfeisiad sy'n dogefennu'r wybodaeth gefndirol berthnasol ac yn gweithredu fel catalydd ar gyfer y broses o werthuso Eiddo Deallusol.
Prawf o Gysyniad yw'r data arbrofol sydd eu hangen i ddangos bod yn syniad yn un ymarferol neu yn un a allai fod yn ymarferol.
Ystyr Datgelu rhywbeth yn gyhoeddus yw rhyddhau gwybodaeth gyfrinachol i fudiad neu berson heb fod cytundeb cyfrinachedd mewn grym. Gellir datgelu yn ysgifenedig (e.e. cyhoeddiadau neu bosteri) neu ar lafar (e.e. cyflwyniad mewn cyfarfod agored neu hyd yn oed drafodaeth mewn tafarn). Mae datgelu i'r cyhoedd yn elfen hanfodol o waith academyddion a chyn belled ag y gellir cofnodi cais am batent cyn ei ddatgelu i'r cyhoedd, gellir ei fasnacheiddio yn ogystal.