Proses Trosglwyddo Technoleg Prifysgol Aberystwyth
Mae’r Tîm Trosglwyddo Technoleg yn cynnig ystod o wasanaethau sy’n ymwneud â masnacheiddio Eiddo Deallusol y Brifysgol. Ar draws y Brifysgol, ceir cyfoeth o Eiddo Deallusol: patentau, hawlfraint, hawliau dylunio, hawliau cronfeydd data, hawliau bridio planhigion, a gwybodaeth anghyhoeddedig a grëwyd drwy ymchwil a gweithgareddau academaidd eraill (gweler Ffigwr 1 ar gyfer diffiniadau Eiddo Deallusol).
Mae’n bosibl fod gan lawer o’r Eiddo Deallusol hwn botensial o ran masnacheiddio, fel cynnyrch neu wasanaethau newydd, a swyddogaeth y Tîm Trosglwyddo Technoleg yw adnabod y potensial a gweithio gyda chi fel y gall gyrraedd y farchnad. Mae gennym broses benodol a fydd yn sicrhau bod eich dyfeisiad yn cael y cyfle gorau i gyrraedd y farchnad.
Mae Proses Drosglwyddo Technoleg wedi'i amlinellu yn Canllaw Eiddo Deallusol a Masnacheiddio Prifysgol Aberystwyth
Camau Nesaf: Darganfyddwch mwy am Werthuso dyfeisiadau a rhoi cyngor arnynt
Adnoddau:
- Lawrlwythwch pdf o ddiagram Proses Trosglwyddo Technoleg - Saesneg
- Lawrlwythwch pdf o ddiagram Proses Trosglwyddo Technoleg - Cymraeg
- Lawrlwythwch gopi llawn o Canllaw Eiddo Deallusol & Masnacheiddio - Cymraeg
- Lawrlwythwch gopi llawn o Canllaw Eiddo Deallusol & Masnacheiddio - Saesneg