Ymchwil Contractau ac Ar y Cyd
Mae GMY yn cynnig gwasanaethau i gefnogi prosiectau Ymchwil Contractau ac Ar y Cyd sy’n defnyddio arbenigedd ac/ neu adnoddau Prifysgol Aberystwyth.
Mae gan dîm GMY brofiad o drafod â phartneriaid busnes i ddatblygu’r telerau gorau posibl o brosiectau o’r math – gan gynnyddu’r buddiannau academaidd yn ogystal â’r incwm Trydedd Genhadaeth a gynhyrchir. Nid yw’r trafodaethau’n gyfyngedig i faterion ariannol; bydd GMY yn sicrhau bod gweithdrefnau mewn lle i amddiffyn Eiddo Deallusol, cyfleoedd cyhoeddi a’r defnydd o unrhyw ddeunydd a ddatblygwyd ar gyfer dysgu ac ymchwil.
Hefyd, rydym yn gweithio gyda phobl ym meysydd Grantiau Ymchwil a Chontractau i sicrhau bod unrhyw ddyledion ariannol neu rwymedigaethau eraill yn cael eu lleihau.
Gall staff o GMY hefyd gynnig cyngor ar fecanweithiau cyllido posibl i gefnogi academia/ mentrau busnes ar y cyd.