Cystadleuaeth 'Blwyddyn Mewn Uned Greadigol’
Ennillydd 2012: Y dylunydd sy’n dod i amlygrwydd, Rose Wood, yw enillydd "Blwyddyn mewn Uned Greadigol" 2012 y Brifysgol.
Darllenwch y Datganiad i’r Wasg
Mae’r gystadleuaeth gyffrous hon yn cynnig gofod stiwdio di-rent am flwyddyn o Hydref 2012 ymlaen, yn un o’r Unedau Creadigol arobryn yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth.
Mae’r gystadleuaeth ‘Blwyddyn mewn Uned Greadigol’ yn agored i fusnesau newydd neu fusnesau / fentrau cymunedol sy'n bodoli eisoes sy'n seiliedig ar unrhyw un o’r Diwydiannau Creadigol gan gynnwys ffilm, teledu, y cyfryngau newydd, y celfyddydau perfformio, y celfyddydau gweledol, y celfyddydau cymhwysol a llenyddiaeth.
Bydd yr enillydd yn gallu manteisio ar ofod stiwdio modern a hyblyg yn un o’r dair ar bymtheg o Unedau Creadigol yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth, canolfan gelf fwyaf Cymru ac un sy’n cael ei chydnabod yn ‘ganolfan genedlaethol flaenllaw ar gyfer y Celfyddydau’.
Mae’r gystadleuaeth yn cael ei chydlynu gan Wasanaethau Masnacheiddio ac Ymgynghori (GMY) Prifysgol Aberystwyth, gan weithio ar y cyd â Chanolfan y Celfyddydau Aberystwyth.
Cystadleuaeth 2013
Am ragor o wybodaeth ynlŷn â Gystadleuaeth 2013 cysylltwch â Tony Orme, Rheolwr Menter - awo@aber.ac.uk / 01970 622203
Enillwyr blaenorol:
2012 – Rose Wood - Rose Wood Designs
Dylunydd gemwaith arbrofol a ysbrydolwyd gan lyfrau sbonc a ffasiwn Japaneaidd.
2011 - Ruth Emily Davey - Ruth Emily Davey Shoes
Mae Ruth yn grydd arobryn.
2010 - Lisa Young - Lisa Young Ceramic Design
Mae 'Lisa Young' yn seramegydd a dylunydd.
2009 - Ric Lloyd - Cleftec Digital
Mae 'Cleftec' yn gweithio ym maes cerddoriaeth ysgythru, CD / DVD / Blue-Ray cynhyrchu a gwasanaethau cerddoriaeth.