Ymarfer Academaidd
Mae McAlpine and Hopwood (2007) yn diffinio arfer academaidd fel y term a ddefnyddir i ddisgrifio’r cyfuniad unigryw o waith a wneir mewn prifysgolion. Gellir rhannu’r gwaith hwn yn fras yn dri math:
- Mathau o ymholi: o archwilio dogfennau’n ysgolheigaidd i ymchwil empirig - boed gymwysedig neu bur, wedi’i gomisiynu, unigol neu gydweithredol
- Mathau o addysgu: gweithio gydag israddedigion, uwchraddedigion a chymrodyr ôl-ddoethurol yn yr ystyr ehangaf e.e. cynllunio gweithgareddau dysgu, asesu, goruchwylio, cynghori a mentora
- Mathau o wasanaeth: i’r sefydliad, y ddisgyblaeth, y proffesiwn a’r gymuned ehangach e.e. cadeirydd/aelod o bwyllgor sefydliadol, trefnydd cynhadledd ddisgyblaethol, ymgynghorydd busnes neu elusen.
Ym Mhrifysgol Aberystwyth mae datblygu arfer academaidd yn elfen sylfaenol o ffurfio a datblygu ymchwil ac addysgu o ansawdd byd-eang. Mae’r tudalennau canlynol yn cynnig trosolwg o ddatblygu ymarfer academaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth.
- Tystysgrif Uwchraddedig Addysgu mewn Addysg Uwch (TUAAU)
- Yr Academi Addysg Uwch (AAU)
- Cyfnodolyn Arfer Academaidd Prifysgol Aberystwyth (AUJAP)
- Cronfa Ddata Ymyriadau Addysgu (Cadair)
- Nexus - rhannu ymarfer da mewn Dysgu â Chymorth Technoleg
- Modiwl Cynorthwyo Myfyrwyr
- Datblygiad Proffesiynol mewn Ymchwil
Mae’r tudalennau hyn yn cynnig cyflwyniad i arfer academaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth. Fodd bynnag, os oes angen gwybodaeth fanylach, cysylltwch yn ddi-oed â’r Ganolfan Datblygu Staff ac Arfer Academaidd: cdsap@aber.ac.uk estyniad 2117.