Yr Academi Addysg Uwch (AAU)
Beth yw’r Academi Addysg Uwch?
Cenhadaeth yr Academi Addysg Uwch yw helpu sefydliadau, grwpiau o ddisgyblaethau a phob aelod o staff i ddarparu profiad dysgu o’r radd flaenaf i’w myfyrwyr.
Beth yw Swyddogaeth yr Academi?
Swyddogaeth yr Academi yw bod yn ganolbwynt y wlad ar gyfer gwella dysgu, addysgu a phrofiadau’r myfyrwyr mewn addysg uwch. Rydym ni’n gweithio gyda sefydliadau, grwpiau o ddisgyblaethau a staff unigol ym mhob un o bedair gwlad y Deyrnas Unedig.Sut mae’r Academi’n Cynorthwyo Dysgu ac Addysgu mewn Addysg Uwch?
Cyfrannu at Bolisïau: Rydym ni’n rhoi llais awdurdodol ac annibynnol ar bolisïau sy’n dylanwadu ar brofiadau dysgu’r myfyrwyr.
Cynorthwyo Sefydliadau: Rydym ni’n gweithio gyda phrifysgolion a cholegau i wella ansawdd y dysgu a phrofiadau’r myfyrwyr.
Ymchwil a Gwerthuso: Rydym ni’n arwain gwaith datblygu ymchwil a gwerthuso i wella profiad y myfyrwyr.
Cynorthwyo Dysgu: Rydym ni’n gweithio gyda sefydliadau ac academyddion i wella ansawdd y dysgu a’r addysgu
Datblygu a Chydnabyddiaeth: Rydym ni’n gweithio i wella statws proffesiynol y staff sy’n ymwneud â dysgu a chynorthwyo myfyrwyr.
Disgyblaethau a Rhwydweithiau: Rydym ni’n rhoi cymorth pwnc-benodol i academyddion a disgyblaethau trwy ein rhwydwaith o ganolfannau pwnc.
Prifysgol Aberystwyth: Yn Gweithio ar y cyd â’r Academi Addysg Uwch
Mae Prifysgol Aberystwyth yn gweithio ar y cyd â’r Academi Addysg Uwch ar nifer o lefelau. Fel canolfan Academi achrededig mae Prifysgol Aberystwyth yn darparu cymhwyster y Dystysgrif Uwchraddedig Addysgu mewn Addysg Uwch (TUAAU). Mae cwblhau’r TUAAU yn llwyddiannus yn galluogi’r ymgeisydd i gael ei achredu gan yr Academi ac ennill statws o fri fel Cymrawd yr Academi Addysg Uwch (FHEA).
Mae Prifysgol Aberystwyth hefyd yn cynnig Tystysgrif Cynorthwyo Myfyrwyr unigryw, sy’n cael ei hachredu gan yr Academi Addysg Uwch. Mae cwblhau’r Dystysgrif yn llwyddiannus yn galluogi’r ymgeisydd i gael ei achredu gan yr academi ac ennill statws fel Cydymaith yr Academi Addysg Uwch (AHEA).
Mae llwybrau Cydnabyddiaeth Broffesiynol eraill ar gael hefyd. Cysylltwch â’r Ganolfan i gael rhagor o wybodaeth.