Cyfnodolyn Arfer Academaidd

Cyfnodolyn Arfer Academaidd Prifysgol Aberystwyth (Saesneg yn unig)

Bydd y cyfnodolyn yn darparu cyfrwng i ystyried addysg a dysgu a lledaenu ymarfer da yn y Brifysgol a’r tu hwnt. Bydd croeso i bapurau gan ymarferwyr academaidd allanol a mewnol fel ei gilydd.

Cyflwyniad

Dylai'r papur fod rhyw 3,000 - 5,000 o eiriau (heb gyfrif y llyfryddiaeth), er y derbynnir papurau byrrach neu hwy lle y bo'n briodol. Croesewir myfyrdodau byrion a golygon ar brofiadau dysgu ac addysg o safbwynt myfyrwyr gan israddedigion a graddedigion fel ei gilydd. Fel rheol ni fyddant yn fwy na 1,000 o eiriau. Dylid defnyddio'r diwyg Harvard, gydag ôl-nodiadau yn hytrach na throednodiadau. Rydym yn annog awduron i gynnwys deiagramau, lluniau a deunydd gweledol eraill gyda labeli clir arnynt.

Bydd erthyglau yn cael eu hadolygu gan academyddion, fel arfer gan ddau ganolwr. Yn y lle cyntaf, dylid anfon erthyglau yn electronig at y Dr Jo Maddern: oam@aber.ac.uk neu Graham Lewis: gjl@aber.ac.uk