Tystysgrif Uwchraddedig Addysgu mewn Addysg Uwch (TUAAU)
Croeso i Dystysgrif Uwchraddedig Addysgu mewn Addysg Uwch (TUAAU) ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Cyflwyniad
Mae’r TUAAU yn unol â Fframwaith Safonau Proffesiynol y Deyrnas Unedig (UKPSF) ac fe’i cynlluniwyd ar gyfer staff sy’n dysgu ac yn cynorthwyo dysgu Addysg Uwch mewn amrywiaeth eang o gyd‐destunau, o ddarlithio a dysgu o bell i addysg oedolion. Y mae’r cwrs yn cael ei achredu gan yr Academi Addysg Uwch, sef sefydliad canolog y DU sy’n gyfrifol am wella ansawdd dysgu a dysg mewn Addysg Uwch.
Y mae cwblhau’r cwrs yn arwain at gymhwyster lefel Meistr ar ffurf Tystysgrif Uwchraddedig, yn ogystal â chofrestriad gyda’r Academi Addysg Uwch fel Cymrawd (FHEA). Y mae’r rhaglen yn cynnwys un modiwl lefel Meistr 60 credyd (EDM1060), ac yn cymryd rhwng 12 mis a 3 blynedd i’w gwblhau fel rheol.
Strwythur
Y mae’r cwrs yn cynnwys elfen o waith a ddysgir a gwaith annibynnol lle y byddwch yn defnyddio eich cyd‐destun gwaith PRESENNOL fel sail ar gyfer datblygu amrywiaeth o ddulliau dysgu ac i ystyried llenyddiaeth berthnasol. Gan fod y cwrs wedi ei seilio ar eich gwaith, bydd llawer o’r gweithgareddau dysgu yn cael eu cyflawni yn ystod eich gwaith dysgu arferol. Mae’r rhaglen yn cynnwys:
- Cyfarwyddyd cyn y Cwrs
- Cwrs cyflwyno preswyl.
- Tri ‘cylch dysgu’ – prosiectau ymchwil ar ddysg myfyrwyr ar raddfa fach.
- Gweithdai Datblygiad Proffesiynol Parhaus.
- Cyfarfodydd gyda mentor o’r adran sydd â phrofiad dysgu yn eich disgyblaeth.
- Arsylwadau dysgu.
- Cyfarfodydd unigol/grŵp rheolaidd sy’n darparu cefnogaeth gan dîm y cwrs.
Y mae’r rhaglen yn cael ei hasesu drwy gyfrwng portffolio ar ddiwedd y cwrs, lle’r ydych yn cyflwyno tystiolaeth o ddatblygiad eich sgiliau proffesiynol a’ch gwybodaeth o ddysgu yng nghyd‐destun eich adran. Daw’r dystiolaeth o’ch dyletswyddau dysgu arferol a’ch gweithgareddau datblygiad proffesiynol parhaus. Asesir y portffolio gan banel o staff hŷn yn ôl meini prawf sy’n cydymffurfio â’r gofynion ar gyfer achrediad gan yr Academi Addysg Uwch.
Dyddiadau TUAAU
Rhestr o ddyddiadau pwysig i gyfranogwyr TUAAU
Tîm y Rhaglen
Cydlynir TUAAU o’r Ysgol Addysg a Dysgu Gydol OES (YADGO). Lleolir y rhaglen ar hyn o bryd yn G18 Adeilad Cledwyn, Campws Penglais.
Cydgysylltydd Datblygu Dysgu ac Addysgu
- Ebost: oam@aber.ac.uk
- Ff: 01970 628523
A darperir cymorth gweinyddol gan y Ganolfan Datblygu Staff ac Ymarfer Academaidd.
- Ebost: staff.dev@aber.ac.uk
- Ff: 01970 622117