Gwobr

Mae’r Brifysgol yn cynnig nifer o wobrau am ragoriaeth mewn dysgu a chefnogi addysg myfyrwyr.

Mae’r gwobrau hyn ar gael am gyfnod cyfyngedig bob blwyddyn academaidd.

Rydym yn argymell eich bod yn cysylltu â’r Ganolfan Datblygu Staff ac Ymarfer Academaidd, a all roi cyngor i chi ynghylch pa wobr sydd fwyaf perthnasol i’ch anghenion a bydd y Ganolfan hefyd yn barod i weithio gyda chi i lunio cynigion.

Gwobrau Rhagoriaeth Academaidd

Gwobr PA am Ragoriaeth Addysgu

Nod y cynllun hwn yw:        

  1. Codi proffil addysgu neu gynorthwyo dysgu yn y Brifysgol:               
  2. Cydnabod a gwobrwyo rhagoriaeth unigolion wrth addysgu neu gynorthwyo dysgu;  
  3. Cydnabod a dathlu unigolion sy’n cael dylanwad eithriadol ar brofiad dysgu’r myfyrwyr;                
  4. Cydnabod dylanwad lleol ac ehangach yr unigolion ar addysgu, neu arferion cynorthwyo dysgu eraill;
  5. Darparu llwybr ar gyfer y Cynllun Cymrodoriaethau Addysgu Cenedlaethol.

Fel arfer, dyfernir pum gwobr unigol o £1,200 bob blwyddyn. Gellir dyfarnu gwobrau ychwanegol mewn unrhyw flwyddyn, os bydd cyllid yn caniatáu hynny.

Gynorthwy-ydd Dysgu Uwchraddedig Eithriado

Pwrpas cynllun y gwobrau addysgu yw:

  1. Cydnabod a gwobrwyo uwchraddedigion unigol am eu cyfraniad at ansawdd y profiad dysgu yn PA 
  2. Rhoi cyhoeddusrwydd i ymrwymiad y Brifysgol i ragoriaeth addysgu.

Tair gwobr o £200 yr un i'w cyflwyno'n flynyddol.