Cymrodoriaeth Dysgu ac Addysgu Prifysgol Aberystwyth

Canllawiau

Cymrodoriaeth Dysgu ac Addysgu Prifysgol Aberystwyth (.pdf)

Ffurflen Gais

Ffurflen Gais Cymrodoriaeth Dysgu ac Addysgu Prifysgol Aberystwyth (.doc)

1. Gorolwg ac Amcanion

Mae cynllun Cymrodoriaethau Dysgu ac Addysgu Prifysgol Aberystwyth (a elwir ‘Y Cynllun Cymrodoriaethau’ ar ôl hyn) yn disodli Gwobr Addysgu Rhagorol Prifysgol Aberystwyth. Ailgynlluniwyd y cynllun er mwyn gwneud y meini prawf o ran asesu yn fwy eglur ac er mwyn cydymffurfio’n well â chynllun a meini prawf y Cynllun Cymrodoriaethau Addysgu Cenedlaethol sydd, er 2011, bellach yn croesawu enwebiadau o sefydliadau yng Nghymru. Fel yn achos y Cynllun Cenedlaethol, mae cynllun Cymrodoriaethau Aberystwyth bellach wedi ei ymestyn i gynnwys ceisiadau priodol gan staff anacademaidd sy’n cynorthwyo dysgu.

Mae’r Gymrodoriaeth hefyd yn cynnig gwobr ariannol o £1200 ar gyfer cynorthwyo deiliaid y Cymrodoriaethau i barhau â’u datblygiad parhaus wrth addysgu neu gynorthwyo dysgu.

Nod y cynllun hwn yw:        

  1. Codi proffil addysgu neu gynorthwyo dysgu yn y Brifysgol:               
  2. Cydnabod a gwobrwyo rhagoriaeth unigolion wrth addysgu neu gynorthwyo dysgu;  
  3. Cydnabod a dathlu unigolion sy’n cael dylanwad eithriadol ar brofiad dysgu’r myfyrwyr;                
  4. Cydnabod dylanwad lleol ac ehangach yr unigolion ar addysgu, neu arferion cynorthwyo dysgu eraill;
  5. Darparu llwybr ar gyfer y Cynllun Cymrodoriaethau Addysgu Cenedlaethol.

Fel arfer, dyfernir pum gwobr unigol o £1,200 bob blwyddyn. Gellir dyfarnu gwobrau ychwanegol mewn unrhyw flwyddyn, os bydd cyllid yn caniatáu hynny.

1.1 Y Broses Ymgeisio  

Rhoddir canllawiau manwl ar gyfer paratoi a chyflwyno ceisiadau ar gyfer y Cynllun Cymrodoriaethau yn adran 2. Noder fod y broses o ymgeisio, sy’n seiliedig ar y Cynllun Cymrodoriaethau Addysgu Cenedlaethol, yn fwy llym ac yn fwy manwl na’r Wobr Addysgu Rhagorol flaenorol.

Ceir ffurflenni cais a manylion pellach y Cynllun Cymrodoriaethau, gan gynnwys dyddiadau cau cyfredol ar gyfer cyflwyno drwy ymweld â: http://www.aber.ac.uk/cy/cdsap/awards/aultf/

Rhaid cyflwyno ceisiadau wedi’u cwblhau erbyn y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau (gweler adran 2.10).

1.2 Gweinyddiaeth a Chymorth

Y Ganolfan Datblygu Staff ac Ymarfer Academaidd sy’n gweinyddu’r Cynllun Cymrodoriaethau o dan arweiniad y Panel Cymrodoriaethau Dysgu ac Addysgu (a elwir y ‘Panel Cynllun Cymrodoriaethau’ ar ôl hyn) sy’n goruchwylio’r meini prawf, yr asesu, a’r dewisiadau ar gyfer y Cynllun Cymrodoriaethau.

Anogir darpar ymgeiswyr yn gryf i gysylltu â Chydlynydd y Ganolfan Datblygu Staff ac Ymarfer Academaidd (e-bost: gjl@aber.ac.uk Ffôn: 1802) wrth iddynt gychwyn ar y broses o lunio’r cais. Gall y Cydlynydd gynnig cyngor ar lunio’r cais ac ar broses y Cynllun Cymrodoriaethau.               

1.3 Asesu Ceisiadau           

Panel y Cynllun Cymrodoriaethau, a fydd yn cynnwys staff o Brifysgol Aberystwyth, fydd yn asesu’r ceisiadau (gweler adran 2.4 am fanylion).                                         

Cyflwynir y gwobrau yn Seremonïau Graddio perthnasol yr enillwyr yn ystod mis Gorffennaf.

Mae’n bosibl y gellir enwebu’r rheiny a fydd yn derbyn y Cymrodoriaethau lleol ar gyfer y Cynllun Cymrodoriaethau Addysgu Cenedlaethol. Bydd Panel y Cynllun Cymrodoriaethau yn dewis hyd at dri aelod o staff i’w henwebu ar gyfer y Cynllun Cymrodoriaethau Cenedlaethol. Bydd y rheiny sy’n dangos y mwyaf o addewid o blith enillwyr Cynllun Cymrodoriaethau Aberystwyth ymhlith y rheiny a ystyrir i’w henwebu.

Bydd y rheiny a fydd yn derbyn y Cymrodoriaethau lleol hefyd yn gymwys i’w derbyn yn aelodau o Academi Addysgu Rhagorol Prifysgol Aberystwyth (gweler http://www.aber.ac.uk/cy/academic-practice/autea am fanylion).

2. Canllawiau ar gyfer Ymgeiswyr

2.1 Cymhwyster  

I fod yn gymwys i wneud cais ar gyfer y cynllun, bydd angen i aelodau’r staff fodloni o leiaf un o’r meini prawf canlynol:

  1. Meddu ar Dystysgrif Uwchraddedig Addysgu mewn Addysg Uwch, a achredir gan yr Academi Addysg Uwch;            
  2. Meddu ar o leiaf dair blynedd o brofiad o addysgu neu gynorthwyo dysgu myfyrwyr mewn addysg uwch;  
  3. Bod yn Gymrawd o’r Academi Addysg Uwch.     

2.2 Cefnogaeth Adrannol ar gyfer Ceisiadau

Rhaid i bob cais ar gyfer y cynllun dderbyn cefnogaeth yr adran berthnasol. Dylai adrannau academaidd ac anacademaidd wahodd a/neu gefnogi ceisiadau gan aelodau o’r staff sy’n gallu dangos rhagoriaeth wrth gynorthwyo profiad dysgu’r myfyrwyr. Anogir adrannau i ystyried holl amrywiaeth y swyddi sy’n cynorthwyo profiad dysgu’r myfyrwyr. Penaethiaid Adrannau neu Wasanaethau ynghyd â’r ymgeisydd ddylai adnabod a dangos tystiolaeth o ragoriaeth yng nghyd-destun yr arbenigedd adrannol, academaidd neu broffesiynol a chyfleoedd yr ymgeisydd i ddylanwadu ar ddysgu’r myfyrwyr.                                            

Mae’r Cynllun Cymrodoriaethau yn croesawu ceisiadau gan ystod mor eang ac amrywiol o staff ag sy’n bosibl Mae Prifysgol Aberystwyth yn gweithredu Cynllun Cydraddoldeb ac wedi ymrwymo  i gyfleoedd cyfartal er mwyn sicrhau na chaiff neb eu trin yn fwy anffafriol na’i gilydd ar sail rhyw, hil, cenedl, tarddiad ethnig neu genedlaethol, credoau crefyddol neu wleidyddol, anabledd, statws priodasol, cefndir cymdeithasol, amgylchiadau teuluol, tueddiadau rhywiol, ailbennu rhywedd, troseddau cyfreithiol sydd wedi’u disbyddu, oed, neu  unrhyw reswm anghyfreithiol arall.

2.3 Meini Prawf Asesu 

Caiff pob ymgeisydd ei asesu ar sail tystiolaeth a ddarperir yn y dogfennau cais creiddiol mewn perthynas â phob un o’r tri maen prawf a restrir isod. Noder:    

  • Dylai ymgeiswyr drin a gwneud achos ar gyfer pob maen prawf yn ei gyfanrwydd ac yn ei dro;
  • Rhoddir ystyriaeth gyfartal i bob un o’r tri maen prawf yn ystod y broses asesu;       
  • Ni ddylai ymgeiswyr deimlo bod yr enghreifftiau isod yn cyfyngu arnynt. Nod yr enghreifftiau yw darparu meysydd sy’n amlygu tystiolaeth ar gyfer pob un o’r meini prawf;

Ch. Mae’r Cynllun Cymrodoriaethau hefyd yn cydnabod ac yn gwerthfawrogi dylanwad ac ymgysylltu perthnasol y tu hwnt i waith academaidd neu broffesiynol uniongyrchol yr unigolyn.

Maen Prawf 1: Rhagoriaeth unigol: tystiolaeth o hyrwyddo a thrawsnewid profiad dysgu’r myfyrwyr.       

Er enghraifft drwy: ennyn chwilfrydedd i  ysgogi ac ysbrydoli dysgu, trefnu a chyflwyno adnoddau yn argyhoeddiadol ac mewn ffordd ddychmygus, gan gydnabod a chynorthwyo amrywiaeth anghenion dysgu myfyrwyr, gan ddefnyddio canlyniadau ymchwil berthnasol, ysgolheictod ac ymarfer proffesiynol, drwy ymgysylltu a chyfrannu at gyhoeddiadau cydnabyddedig neu dystiolaeth bersonol yr ymgeisydd.

Maen Prawf 2: Codi proffil rhagoriaeth: tystiolaeth o gynorthwyo cydweithwyr a dylanwadu ar gymorth ar gyfer dysgu myfyrwyr yn sefydliad yr ymgeisydd (a thu hwnt, os yw’n briodol), drwy ddangos dylanwad ac ymgysylltu y tu hwnt i waith academaidd neu broffesiynol uniongyrchol yr ymgeisydd.

Er enghraifft drwy: gyfrannu at ddatblygiad cydweithwyr wrth hyrwyddo dysgu myfyrwyr, cyfrannu at fentrau adrannol/cyfadrannol/sefydliadol/cenedlaethol i hwyluso dysgu myfyrwyr, cyfrannu at a/neu gynorthwyo newid ystyrlon ac adeiladol mewn perthynas ag ymarfer, polisi, a/neu drefniadaethau pedagogaidd.

Maen Prawf 3: Meithrin rhagoriaeth: ymrwymiad yr ymgeisydd i’w d/ddatblygiad proffesiynol parhaus ei hun o ran dysgu ac addysgu a/neu gynorthwyo dysgu.                 

Er enghraifft drwy: adolygu a gwella ymarfer personol yn barhaus, ymgysylltu â gweithgareddau datblygiad proffesiynol, ymgysylltu ag adolygu a gwella ymarfer personol, cyfrannu at welliannau ym mhrofiad dysgu’r myfyrwyr.                          

2.4 Y Broses Asesu

Caiff ceisiadau eu hystyried gan Banel y Cynllun Cymrodoriaethau a fydd yn barnu’r ceisiadau ar sail yr wybodaeth a gyflwynir yn unol â’r tri maen prawf ar gyfer asesu, y datganiad o gefnogaeth gan Bennaeth yr Adran a’r CV byr. Nid ystyrir unrhyw wybodaeth arall.          

Aelodau Panel y Cynllun Cymrodoriaethau fydd:

  • Dirprwy Is-Ganghellor Dysgu ac Addysgu (yn y Gadair)
  • Deon y Gwyddorau
  • Deon y Celfyddydau
  • Deon y Gwyddorau Cymdeithasol
  • Cydlynydd Datblygu Dysgu ac Addysgu           
  • Cydlynydd y Ganolfan Datblygu Staff ac Ymarfer Academaidd                     
  • Llywydd Urdd y Myfyrwyr.            
  • Aelod o Academi Addysgu Rhagorol Prifysgol Aberystwyth             

Bydd aelodau’r panel yn adolygu pob cais yn ôl y categorïau asesu (gweler adran 2 y Ffurflen Gais) a ddarperir gan yr ymgeisydd. Bydd aelodau Panel y Cynllun Cymrodoriaethau yn cyflwyno eu barn i’r Ganolfan Datblygu Staff ac Ymarfer Academaidd cyn i’r panel gyfarfod.

Bydd aelodau Panel y Cynllun Cymrodoriaethau yn graddio pob un o’r meini prawf gan ddefnyddio’r disgrifyddion graddfa canlynol. Daw’r rhain o’r Cynllun Cymrodoriaethau Addysgu Cenedlaethol, fel y bydd enillwyr y Cynllun Cymrodoriaethau yn gyfarwydd â nhw os cânt eu henwebu ar gyfer un o wobrau’r Cynllun Cenedlaethol. Rhoddir yr un pwysau i bob un o’r tri maen prawf yn ystod y broses asesu. Dyma’r disgrifyddion graddfa:

Alffa Un

Mae’r cais yn bodloni gofynion y maen prawf yn llwyr a hynny mewn ffyrdd eglur a pherthnasol ac yn dangos ystod eang o gyd-destunau sy’n gweddu i  rôl/cyfle’r ymgeisydd i gyfrannu at addysgu neu gynorthwyo dysgu. Mae’r cais yn dangos cyfraniad eithriadol sydd wedi trawsnewid dysgu myfyrwyr. Mae gwaith yr unigolyn hwn, fel y’i cyflwynir yn y cais, wedi codi proffil a/neu safon dysgu ac addysgu yn sylweddol ac yn dangos y potensial i wneud hynny yn y dyfodol. Mae’r dystiolaeth a ddarparwyd mewn perthynas â’r maen prawf yn cyd-fynd â’r hyn a ddisgwylir o Gymrawd Dysgu ac Addysgu Prifysgol Aberystwyth.

Alffa Dau

Mae’r cais yn bodloni gofynion y maen prawf yn llwyr, a hynny mewn ffyrdd eglur a pherthnasol ac yn dangos ystod rhesymol o gyd-destunau o ran y rôl/y cyfle i gyfrannu at addysgu neu gynorthwyo dysgu. Mae’r cais yn dangos cyfraniad eithriadol i ddysgu myfyrwyr. Mae gwaith yr unigolyn hwn, fel y’i cyflwynir yn y cais, wedi codi proffil a/neu safon dysgu ac addysgu ac yn dangos y potensial i wneud hynny yn y dyfodol. Mae’r dystiolaeth a ddarparwyd mewn perthynas â’r maen prawf hwn yn cyd-fynd â’r hyn a ddisgwylir o Gymrawd Dysgu ac Addysgu Prifysgol Aberystwyth.

Alffa Tri 

Mae’r cais yn bodloni gofynion y maen prawf yn llwyr, a hynny mewn ffyrdd eglur a pherthnasol, ond gan ddangos ystod cyfyngedig o gyd-destunau o ran y rôl/y cyfle i gyfrannu at addysgu neu gynorthwyo dysgu. Mae’r cais yn dangos cyfraniad eithriadol i ddysgu myfyrwyr. Mae gwaith yr unigolyn hwn, fel y’i cyflwynir yn y cais, wedi codi, i ryw raddau, broffil a/neu safon dysgu ac addysgu a hefyd yn dangos y potensial i wneud hynny yn y dyfodol. Mae’r dystiolaeth a ddarparwyd mewn perthynas â’r maen prawf hwn yn cyd-fynd â’r hyn a ddisgwylir o Gymrawd Dysgu ac Addysgu Prifysgol Aberystwyth.

Beta Un 

Mae’r cais yn nodi bod y maen prawf wedi ei fodloni’n sylweddol, ond nid yn gyfan gwbl. Nodir rhai enghreifftiau eglur a pherthnasol. O ran rôl/cyfle’r ymgeisydd i gyfrannu at addysgu neu gynorthwyo dysgu, ceir tystiolaeth annigonol i ateb gofynion y maen prawf ac fe ellid bod wedi cynnig enghreifftiau mwy pellgyrhaeddol. Mae’r cais yn dangos i waith yr unigolyn godi proffil a/neu safon dysgu ac addysgu i ryw raddau ac yn dangos yn eglur botensial i wneud hynny yn y dyfodol.

Beta Dau

Mae’r cais yn dangos peth bodlonrwydd o ofynion y maen prawf. Nodir rhai enghreifftiau eglur ond nid yw’r rhain bob amser yn gwbl berthnasol, sylweddol na phellgyrhaeddol. O ran rôl/cyfle’r ymgeisydd i gyfrannu at addysgu neu gynorthwyo dysgu, ceir tystiolaeth annigonol o ran dyfnder ac ehangder. Mae’r cais yn dangos yn glir botensial i godi proffil a/neu safon dysgu ac addysgu ond nid yw’n dangos i hyn gael ei gyflawni hyd yma.

Beta Tri 

Mae’r cais yn dangos peth bodlonrwydd o ofynion y maen prawf. Prin yw’r enghreifftiau eglur a nodir ac nid yw’r rhain bob amser yn gwbl berthnasol, sylweddol na phellgyrhaeddol. O ran rôl/cyfle’r ymgeisydd i gyfrannu at ddysgu ac addysgu a/neu ymarfer pedagogaidd, ceir tystiolaeth annigonol o ran dyfnder ac ehangder. Mae’r cais yn dangos peth potensial i godi proffil a/neu safon dysgu ac addysgu.

Gama

Nid yw’r cais yn dangos iddo fodloni’r maen prawf. Prin yw’r dystiolaeth eglur a/neu berthnasol a nodir, neu ni cheir tystiolaeth o’r fath o gwbl. Nid yw’n ymddangos fod y dystiolaeth a nodir yn adlewyrchu rôl/cyfle’r ymgeisydd i gyfrannu at ddysgu ac addysgu neu at gynorthwyo dysgu. Nid yw’r dystiolaeth a ddarperir yn y cais hwn yn cyd-fynd â’r safon a ddisgwylir gan Gymrawd Dysgu ac Addysgu Prifysgol Aberystwyth.

Dalier Sylw

Mae’r ymgeiswyr hynny sy’n llwyddo i sicrhau graddfa Alffa yn amlwg o safon ddigonol i gyfiawnhau dyfarnu Cymrodoriaeth. Er hynny, gan mai proses gystadleuol yw hon, nid yw’n dilyn y bydd pawb sy’n derbyn graddfa Alffa o reidrwydd yn derbyn gwobr mewn blwyddyn ymgeisio benodol. Anogir y rheiny na fydd yn derbyn gwobr i ailgyflwyno mewn cystadlaethau dilynol.

Anogir y rheiny a fydd yn derbyn graddfa Beta, neu gymysgedd o raddfeydd Alffa a Beta, i ailddrafftio eu ceisiadau ar gyfer cystadlaethau dilynol, i chwilio am dystiolaeth ychwanegol ac i ddatblygu eu hymarfer ymhellach cyn ailgyflwyno mewn cystadlaethau dilynol.

Anogir yr ymgeiswyr hynny a fydd yn derbyn un raddfa Gama neu fwy i geisio cymorth wrth ddatblygu eu hymarfer ymhellach ac wrth ailysgrifennu ceisiadau yn y dyfodol.

Bydd aelodau Panel y Cynllun Cymrodoriaethau yn dewis ar sail asesu ar y cyd a Datganiad o Gefnogaeth Pennaeth yr Adran.     

Ni chaniateir i’r Panel ystyried ceisiadau o’u hadrannau eu hunain, nac o unrhyw adran lle ceir gwrthdaro buddiannau posibl.                            

Bydd penderfyniad Panel y Cynllun Cymrodoriaethau yn derfynol.

2.5 Cyfarwyddiadau ar gyfer y Cais

Rhaid i Bennaeth yr Adran neu ei g/chynrychiolydd gyflwyno’r cais yn electronig; yn unol ag adran 2.6 isod (noder yr uchafswm geiriau/hyd tudalennau);

  1. Ffurflen Gais (ar gyfer gweinyddu mewnol yn unig)
  2. Datganiad o Gefnogaeth gan Bennaeth Adran yr ymgeisydd (uchafswm o 750 gair).     
  3. Datganiad ar ffurf Ymarfer Myfyriol yr Ymgeisydd o Ragoriaeth mewn Addysgu a/neu Gynorthwyo Dysgu: datganiad ynghylch sut y mae’r unigolyn yn dangos rhagoriaeth sy’n berthnasol i bob un o’r tri maen prawf (uchafswm o 2500 gair).        
  4. Curriculum Vitae byr (uchafswm o 750 gair neu 2 ochr A4 pa bynnag un sydd fyrraf).
  5. Proffiliau personol a ffotograffau (gorfodol ond ni chânt eu hasesu): mae Adran 3 y Ffurflen Gais yn gofyn i ymgeiswyr ddarparu proffil personol 250 gair a ffotograff o ansawdd uchel. Ni fydd proffiliau personol yn cael eu hasesu yn rhan o’r cais. Noder fod proffiliau personol a ffotograffau yn elfen ofynnol o gais cyflawn ar gyfer Cymrodoriaeth.                    

Mae’n bosibl y bydd y canllawiau a ganlyn o ddefnydd i adran yr ymgeisydd wrth roi’r dogfennau cais at ei gilydd:

Ffurflen Gais: Rhaid i ymgeiswyr gwblhau pob adran yn llawn.
Datganiad o Gefnogaeth: Mae’r datganiad o gefnogaeth gan Bennaeth yr Adran yn elfen hanfodol o’r cais. Argymhellir bod cais yr ymgeisydd ar gyfer Cymrodoriaeth yn cael ei ddarllen cyn llunio Datganiad o Gefnogaeth yr adran.

Er na cheir ffurf na strwythur safonol i’r datganiad, bydd o gymorth i ddarparu sylwadau y gellir eu gwerthuso yn ôl y tri maen prawf gan roi tystiolaeth gredadwy i gefnogi’r cyflawniadau a nodir yn Natganiad Myfyriol yr ymgeisydd. Yn benodol, mi ddylai’r datganiad:                     

  • Gadarnhau dilysrwydd honiad yr ymgeisydd o ragoriaeth;        
  • Rhoi cyd-destun adrannol yr ystyrir bod yr ymgeisydd yn rhagorol oddi mewn iddo;             
  • Darparu unrhyw wybodaeth ategol a fynegir yn fwyaf priodol gan Bennaeth Adran yn hytrach na chan yr ymgeisydd ei hun.

Datganiad ar ffurf Ymarfer Myfyriol yr Ymgeisydd o Ragoriaeth mewn Addysgu a/neu Gynorthwyo Dysgu: Anogir ymgeiswyr i gyflwyno eu honiad o ragoriaeth yn ôl y tri maen prawf gan gyfeirio at enghreifftiau o dystiolaeth i gefnogi hynny. Gall y rhain gynnwys (ond heb gael eu cyfyngu i): adborth a gwerthuso gan fyfyrwyr, adborth arsylwadau cydweithwyr, adborth o ymrwymiadau cenedlaethol eraill, deunyddiau cynorthwyo myfyrwyr a gwaith gyda sefydliadau partner a mudiadau eraill. Yr ymgeisydd ac adran yr ymgeisydd fydd yn penderfynu ar yr hyn sy’n briodol i’w gynnwys o ran tystiolaeth.

Bydd unigolion o wahanol ddisgyblaethau academaidd a meysydd anacademaidd yn anochel yn arddangos gwahanol arddulliau ysgrifennu a dadansoddi ac fe fydd hyn yn cael ei ystyried yn ystod y broses o asesu. Ni ddisgwylir ‘arddull ysgrifennu’, fel y cyfryw, yn y ceisiadau a bydd enghreifftiau yn cael eu hasesu a’u marcio o ran eu cyfraniad i’r meini prawf a asesir yn gyffredinol.

Curriculum Vitae: Cynghorir ymgeiswyr i ganolbwyntio ar eu profiad a’r hyn a gynhyrchwyd ganddynt, gyda golwg ar ddangos ymrwymiad cadarn i wella a chynorthwyo dysgu myfyrwyr a chyflawni neu hwyluso rhagoriaeth addysgu. Noder na ddylai’r CV fod yn hwy na 750 gair neu 2 ochr A4 pa bynnag un sydd fyrraf a bod yn rhaid iddo gyd-fynd â’r gofynion fformatio yn adran 2.6.  

2.6 Gofynion Fformatio     

Rhaid i bob dogfen (Datganiad o Gefnogaeth, Datganiad Ymarfer Myfyriol a’r CV) ddilyn yr holl ofynion fformatio canlynol. Ni dderbynnir fformat arall.

Nifer geiriau / hyd tudalennau:

  • Datganiad o Gefnogaeth: uchafswm o 750 gair
  • Datganiad ar ffurf Ymarfer Myfyriol o Ragoriaeth Addysgu a/neu Gynorthwyo Dysgu: uchafswm o 2500 gair                            
  • Curriculum Vitae: uchafswm o 750 gair neu 2 ochr A4 pa bynnag un sydd fyrraf.
  • Ffont: Arial 11 pwynt
  • Cyfeiriad tudalen: A4 ffurf portread yn unig
  • Gofod rhwng llinellau: 1.5 llinell
  • Ymylon: 2cm o leiaf (heb gynnwys y troedynnau)                     
  • Penynnau: Nid oes angen pennyn.
  • Troedyn: Dylai nodi “tudalen x o y” yn unig.
  • Yn ogystal â’r uchod, dylai’r Datganiad ar ffurf Ymarfer Myfyriol o Ragoriaeth Addysgu a/neu Gynorthwyo Dysgu ddilyn y gofynion fformatio a ganlyn:                          
  • I’w cynnwys yn y nifer geiriau: Bydd pob teitl is-adran, testun mewn tablau neu ddiagramau, rhifau a chyfeiriadau yn cyfrif tuag at y nifer geiriau.       
  • Troedynnau: Ni ddylid defnyddio’r rhain. Dylid cynnwys cyfeiriadau yng nghorff y testun neu gynnwys ôl-nodiadau, a’u hychwanegu at y nifer geiriau terfynol.
  • Lluniau: Ni ddylid cynnwys unrhyw luniau.
  • Diagramau: Caniateir y rhain. Dylid cyfrif geiriau sy’n rhan o’r diagram â llaw, eu nodi wrth ochr y diagram mewn cromfachau a’u hychwanegu at y nifer geiriau terfynol.
  • Cysylltiadau gwe: Ar gyfer cyfeirio yn unig. Ni fydd cynnwys cysylltiadau gwe yn cael ei ystyried wrth asesu.
  • Nifer geiriau terfynol: Dylid goleuo’r ddogfen gyfan a defnyddio’r teclyn i gyfrif geiriau, gan sicrhau bod y blwch “cynnwys troednodiadau ac ôl-nodiadau” yn cael ei ddewis, er mwyn cyfrif yr holl destun rhydd perthnasol. Os oes geiriau wedi’u cynnwys mewn diagramau, dylid eu hychwanegu at y cyfanswm a nodi’r cyfanswm terfynol ar ddiwedd y ddogfen. Nid yw penynnau a throedynnau yn cael eu cyfrif.

Mae Panel y Cynllun Cymrodoriaethau yn mynnu bod y gofynion fformatio uchod yn cael eu dilyn yn llym er mwyn sicrhau tegwch a chysonder i bob ymgeisydd. Gwrthodir ar unwaith unrhyw geisiadau na fydd yn dilyn y gofynion hyn ar ôl y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau. Cyfrifoldeb yr ymgeisydd ac adran yr ymgeisydd felly fydd sicrhau bod y cais yn dilyn y gofynion fformatio a’r gofynion o ran nifer geiriau/hyd tudalennau. Ni dderbynnir ceisiadau a wrthodwyd, ac a ailfformatiwyd, ar ôl y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau.            

2.7 Cyflwyno a Derbyn Ceisiadau           

  • Rhaid i Bennaeth yr Adran neu ei g/chynrychiolydd anfon y cais yn electronig at cdsap@aber.ac.uk
  • Dylid rhoi’r pennawd ‘Cais ar gyfer Cymrodoriaeth Dysgu ac Addysgu Prifysgol Aberystwyth / Application for Aberystwyth University Learning and Teaching Fellowship’.
  • Dylai’r cais fod ar ffurf dogfen Microsoft Word wedi’i chyfuno
  • Dylai’r cais gael ei dderbyn erbyn 12.00am ar y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau
  • Dylid anfon cais electronig ar wahân ar gyfer pob ymgeisydd. Nid oes angen llofnodion electronig.
  • Anfonir cydnabyddiaeth o dderbyn ceisiadau electronig drwy e-bost at yr unigolyn a gyflwynodd y cais.              

Nodwch y bydd ceisiadau yn cael eu gwirio â llaw er mwyn sicrhau eu bod yn cwrdd â gofynion fformatio cyn anfon cydnabyddiaeth. Oni bydd yr unigolyn sy’n cyflwyno’r cais yn derbyn e-bost ymhen 48 awr ar ôl cyflwyno’r cais, dylai gysylltu â thîm y Ganolfan Datblygu Staff ac Ymarfer Academaidd: cdsap@aber.ac.uk (Ffôn: 01970 622117).

2.8 Canlyniadau a Chyhoeddusrwydd

Hysbysir pob ymgeisydd o’r canlyniad drwy lythyr. Anfonir copi o’r llythyr at Bennaeth Adran yr ymgeisydd a Deon y Gyfadran yn ogystal.          

Cyhoeddir enwau enillwyr Cymrodoriaethau Dysgu ac Addysgu Prifysgol Aberystwyth yn swyddogol drwy ddatganiad i’r wasg ym mis Mehefin.    

Bydd pob ymgeisydd yn derbyn adborth gan Banel y Cynllun Cymrodoriaethau yn y llythyr. Er hynny, mae Panel y Cynllun Cymrodoriaethau yn pwysleisio mai cystadleuaeth yw’r Cynllun Cymrodoriaethau ac y dyfernir Cymrodoriaethau ar sail gystadleuol.

Anogir ymgeiswyr aflwyddiannus i gydweithio â’r Ganolfan Datblygu Staff ac Ymarfer Academaidd er mwyn gwella eu haddysgu neu gynorthwyo dysgu ymhellach a/neu dderbyn cymorth wrth ailddrafftio ceisiadau i’w hailgyflwyno yn y dyfodol.              

Mae’n bosibl y bydd enillwyr Cymrodoriaethau Dysgu ac Addysgu Prifysgol Aberystwyth yn gymwys i’w henwebu ar ran y sefydliad ar gyfer y Cynllun Cymrodoriaethau Addysgu Cenedlaethol. Dylai cymrodyr sydd yn dymuno cael eu hystyried i’w henwebu ar gyfer y Cynllun Cenedlaethol gysylltu â Chydlynydd y Ganolfan Datblygu Staff ac Ymarfer Academaidd i nodi bod ganddynt ddiddordeb.

2.9 Seremoni Raddio ac Academi Addysgu Rhagorol Prifysgol Aberystwyth

Cyflwynir Cymrodoriaethau Dysgu ac Addysgu Prifysgol Aberystwyth yn ystod Seremonïau Graddio perthnasol yr enillwyr ym mis Gorffennaf. Mae mynychu’r Seremoni Raddio yn un o ofynion dyfarnu’r wobr.

Disgwylir i Gymrodyr Dysgu Prifysgol Aberystwyth wneud cyfraniad adeiladol i ddatblygiad dysgu ac addysgu Prifysgol Aberystwyth a bod yn gymwys ar gyfer ymaelodi ag Academi Addysgu Rhagorol Prifysgol Aberystwyth. Gellir gofyn i gymrodyr gyfrannu at weithgareddau datblygiad dysgu ac addysgu yn y Brifysgol. Gall hyn gynnwys cynorthwyo â gweithgareddau datblygiad proffesiynol parhaus neu weithgareddau sy’n hyrwyddo’r Brifysgol.

2.10 Dyddiadau Cau ac Amserlen Asesu

Mae’r dyddiadau ar gyfer 2012 fel a ganlyn:

DateAction
13 Chwefror 20112 Galw am geisiadau.
16 Ebrill 2012 Dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau electronig.
1 Mehefin 2012 Cyhoeddi Cymrodoriaethau Dysgu ac Addysgu Prifysgol Aberystwyth.
10-13 Gorffennaf 20112 Cyflwyno Cymrodoriaethau Dysgu ac Addysgu Prifysgol Aberystwyth yn Seremonïau Graddio perthnasol yr ymgeiswyr