Gynorthwy-ydd Dysgu Uwchraddedig Eithriadol
Canllawiau
Canllawiau i Gwobr i Gynorthwy-ydd Dysgu Uwchraddedig Eithriadol 2011/2012 (.pdf)
Ffurflen Gais
Gwobr i Gynorthwyydd Dysgu Uwchraddedig Eithriadol 2011-2012 (.doc)
Nod
Pwrpas cynllun y gwobrau addysgu yw
- Cydnabod a gwobrwyo uwchraddedigion unigol am eu cyfraniad at ansawdd y profiad dysgu yn PA
- Rhoi cyhoeddusrwydd i ymrwymiad y Brifysgol i ragoriaeth addysgu.
Nifer y gwobrau
Tair gwobr o £200 yr un i'w cyflwyno'n flynyddol.
Addasrwydd
Uwchraddedigion sy'n gweithredu fel cynorthwywyr dysgu rhan-amser, arddangoswyr neu'n darparu cymorth dysgu.
Ymgeisio
Dylech gyflwyno achos eich cais (heb fod yn fwy na phedair ochr), sicrhau asesiad gan eich Cyfarwyddwr Dysgu, geirda gan aelod priodol o staff y buoch yn gweithio gydag ef/hi a dylech lenwi'r ffurflen gais sydd i'w harwyddo gan eich Pennaeth Adran. Dylai'ch achos am y wobr gynnwys
- Disgrifiad byr o'r cyd-destun presennol h.y. rôl, a chyfrifoldebau dysgu ac addysgu;
- Adroddiad byr myfyriol ar athroniaeth dysgu h.y. agwedd at ddysgu ac addysgu ac ar y gwerthoedd sy'n nodweddu eich arferion dysgu;
- Dwy enghraifft o leiaf o sut y ceisiwch greu ymroddiad yn eu dysgu mewn myfyrwyr o fewn i'ch cyd-destun addysgu chi (mewn grwpiau bychan, yn y labordy, mewn sefyllfa un i un a.y.b.) a'r modd yr ydych yn barnu effeithiolrwydd yr hyn yr ydych yn ei wneud.
Geirda
Bwriad asesiad y Cyfarwyddwr Dysgu yw cefnogi a thystio i'ch cais a bydd yn rhan bwysig o'r broses farnu. Dylech adael iddo ef/iddi hi a'ch canolwr edrych ar eich datganiad fel y gallant gynnig sylwadau arno lle bo'n berthnasol. Dylai'r asesydd gadarnhau'r datganiad a chyd-destun eich gwaith dysgu, a chyflwyno gwybodaeth bellach gan ddefnyddio ei wybodaeth/gwybodaeth am eich gwaith dysgu. Dylai'r sylwadau hyn gynnwys tystiolaeth, er enghraifft, adborth myfyrwyr, proses adolygu'r modiwl, a safbwyntiau Cydgysylltydd/Cydgysylltwyr y Modiwl y bu'r cynorthwy-ydd dysgu yn cydweithio â hwy.
Efallai y bydd canolwyr yn dymuno ystyried sut mae'r ymgeisydd wedi cefnogi dysgu, neu wedi galluogi myfyrwyr i ddeall y testun yn well, neu sut y maent wedi ennyn brwdfrydedd y myfyrwyr neu wedi eu cefnogi. Mae'n bosibl y bydd ganddynt dystiolaeth ategol o arsylwadau, o ymatebion myfyrwyr, a.y.b.
Arweiniad
Dylid cyflwyno’r cais i’r Ganolfan Datblygu Staff ac Ymarfer Academaidd.
Amserlen
Dyddiadau cau ar gyfer ceisiadau 16 Ebrill 2012
Y Broses o Benderfynu
Bydd y ceisiadau'n cael eu hystyried gan grŵp dan gadeiryddiaeth y Dirprwy Is-Ganghellor (Dysgu ac Addysgu), a fydd yn cynnwys y Deoniaid, Llywydd yr Urdd a'r Cyfarwyddwr Datblygu Staff. Yn y blynyddoedd sydd i ddod, lle bo hynny'n ymarferol, bydd cynrychiolydd o blith yr enillwyr blaenorol yn rhan o'r grŵp penderfynu.
Cyflwyno'r Gwobrau
Cyflwynir y gwobrau yn y seremoni raddio berthnasol
Adolygiad
Bydd y cynllun yn cael ei adolygu'n flynyddol i weld os oes angen gwneud newidiadau i'r ffordd y mae'n gweithredu cyn y cyfarfod dilynol.