Cynllun Datblygu Proffesiynol Prifysgol Aberystwyth (CDPPA)

Un o fanteision cyflogaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth yw bod y brifysgol yn cynnig, i bob aelod o staff, gyfle am ddatblygiad proffesiynol ar ffurf Cynllun Datblygu Proffesiynol Prifysgol Aberystwyth (y cyfeirir ato fel ‘y Cynllun’ wedi hyn). Mae’r Cynllun hwn yn gallu golygu na fydd rhaid talu ffioedd am:

  1. modiwl unigol a ddysgir drwy gwrs;
  2. gradd, tystysgrif neu ddiploma rhan-amser a ddysgir drwy gwrs.

Canllawiau

Cwmpas

Mae’r Cynllun yn cwmpasu modiwlau Dysgu Gydol Oes a modiwlau yn yr adrannau academaidd. Gall y Cynllun gynnwys darpariaeth ar unrhyw lefel (israddedig, uwchraddedig) ac unrhyw ddull (dysgu o bell, rhan-amser neu amser-llawn). Nid yw’r Cynllun yn cynnwys cofrestru ar raddau ymchwil, sy’n cael eu trin gan reoliadau ar wahân. Mae Prifysgol Aberystwyth yn cadw’r hawl i beidio â chynnwys rhai categorïau o fodiwlau ar raglenni gradd yn y Cynllun hwn.

Pwy sy’n cael ymuno â’r Cynllun

Mae’r Cynllun ar agor i unrhyw aelod o staff y Brifysgol. Mae’r Cynllun yn cynnwys cofrestriadau newydd ar fodiwlau neu gyrsiau yn unig. Ni ystyrir ceisiadau ôl-weithredol heblaw’r rhai a gyflwynwyd hyd at dri mis calendr ar ôl i’r cwrs astudio gychwyn. Os yw’r cwrs astudio yn gofyn am ryddhau’r aelod o staff o ddyletswyddau yn ystod y diwrnod gwaith, bydd yn rhaid cael cytundeb Pennaeth adran yr ymgeiswyr i’r trefniadau. Rhaid i’r Pennaeth Adran gofnodi unrhyw drefniadau o’r fath gan gynnwys, yn achos staff rhan-amser, newidiadau i unrhyw batrymau gwaith y cytunwyd arnynt o’r blaen. Rhaid anfon copi o’r newidiadau hyn i’r adran Adnoddau Dynol. Caiff aelodau o’r staff wneud cais am fodiwlau unigol ar ôl 6 mis calendr o wasanaeth neu fel rhan o’r rhaglen Datblygu Proffesiynol Parhaol a gynhelir gan y Ganolfan Datblygu Staff ac Ymarfer Academaidd. Caiff aelodau o staff wneud cais i Gynllun Datblygu Proffesiynol Aberystwyth am radd, tystysgrif neu ddiploma rhan-amser a ddysgir drwy gwrs ar ôl 12 mis calendr o wasanaeth, neu fel rhan o’r rhaglen Datblygu Proffesiynol Parhaol a gynhelir gan y Ganolfan Datblygu Staff ac Ymarfer Academaidd.

Y drefn ymgeisio

  1. Yn y lle cyntaf, mae’n rhaid i’r ymgeiswyr gysylltu â’r Ganolfan Datblygu Staff ac Ymarfer Academaidd i drefnu cyfarfod adolygu datblygu staff unigol. Mae’r adolygiad yn ystyried sut y byddai’r cwrs astudio arfaethedig yn fuddiol i ddatblygiad personol yr ymgeisydd, yn ogystal â bodloni amcanion yr adran a’r sefydliad.
  2. Mae’n rhaid i ymgeiswyr gysylltu â Thiwtor Derbyn /  Detholwr Uwchraddedigion yr adran a fydd yn darparu’r cwrs astudio, er mwyn sicrhau y byddant yn cael eu derbyn fel myfyrwyr.
  3. Os yw’r adran yn cytuno derbyn yr ymgeisydd, bydd y Tiwtor Derbyn / Detholwr Uwchraddedigion yn ebostio’r Ganolfan Datblygu Staff i gadarnhau’r trefniant. Bydd y Ganolfan Datblygu Staff wedyn yn rhoi Ffurflen Gais i Gynllun Datblygu Proffesiynol Aberystwyth i’r ymgeisydd.
  4. Rhaid i Bennaeth yr Adran lofnodi’r ffurflen i ddweud eu bod yn cytuno bod yr ymgeisydd yn cael ymgymryd â’r cwrs astudio. Os nad yw’r Pennaeth Adran yn cytuno bod yr ymgeisydd yn cael ymgymryd â’r cwrs astudio, bydd yn rhoi gwybod yn ysgrifenedig i’r ymgeisydd y rhesymau am wrthod y cais, ac anfon copi hefyd i’r Ganolfan Datblygu Staff ac Ymarfer Academaidd.
  5. Os bydd y camau 1-4 wedi’u cwblhau’n llwyddiannus, rhaid i’r ymgeisydd ddychwelyd copïau, wedi’u llenwi, o’r ddwy ffurflen isod:
  • Ffurflen Gais i Gynllun Datblygu Proffesiynol Prifysgol Aberystwyth.
  • Ffurflen gais am y cynllun astudio arfaethedig.

Gan eu hanfon i’r Swyddfa Derbyn (i gyrsiau astudio mewn adrannau academaidd) neu i’r Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes (i fodiwlau sengl Dysgu Gydol Oes)

Penderfyniadau

Bydd y penderfyniad ynghylch derbyn aelod o’r staff i’r cwrs astudio arfaethedig yn cael ei wneud ar sail ystyriaethau academaidd yn unig. Bydd y penderfyniad ynghylch a yw Cynllun Datblygu Proffesiynol Aberystwyth yn gymwys yn yr achos hwn yn dibynnu ar gytundeb rhwng adran yr ymgeisydd a’r adran sy’n darparu’r modiwl.

Os yw’r unigolion dan sylw yn peidio â bod yn aelod o staff Prifysgol Aberystwyth ar ôl cofrestru ar gwrs astudio, ac os ydynt am gwblhau’r cymhwyster, bydd yn ofynnol iddynt ad-dalu gweddill y ffioedd sydd arnynt i’r Brifysgol ar sail pro rata.

Tra byddant yn gofrestredig ar y modiwlau dan sylw, rhaid i’r staff gydymffurfio â Rheoliadau Academaidd Prifysgol Aberystwyth, ac mae’r Brifysgol yn cadw’r hawl i dynnu unigolion o’r Cynllun os bydd achos da (e.e. twyllo neu beidio â dilyn y cwrs astudio yn ddiwyd). Os bydd achos o’r fath yn codi, fe roddir y rhesymau penodol.

Mae hawl apelio, yn ôl y Cynllun, i’r Dirprwy Is-Ganghellor (Materion Academaidd). Rhaid i bob apêl gael ei thrafod â Chydlynydd y Ganolfan Datblygu Staff ac Ymarfer Academaidd cyn ei chyflwyno.

Adolygir y Polisi hwn a’r Gweithdrefnau hyn yn achlysurol a hynny o leiaf bob yn ddwy flynedd. Bydd pob adolygiad yn cynnwys ymgynghoriad ag Undebau Llafur cydnabyddedig y campws.

Mae’r Brifysgol wedi’i hymrwymo i ymgorffori'r Cynllun Cydraddoldeb Cyfun yn ei pholisïau, ei gweithdrefnau a’i hymarfer. Mae’r polisi hwn wedi cael ei asesu am ei effaith ar gydraddoldeb yn unol â’r cynllun hwnnw.

Cysylltiadau

Y Ganolfan Datblygu Staff ac Ymarfer Academaidd. Ffôn: 2117 ebost: staff.dev@aber.ac.uk